Helaethiad ffactor graddfa
Mae siapiau \({B},~{C}\) a \({D}\) i gyd yn helaethiadau o siâp \({A}\). Ond mae pob un o wahanol faint ac mewn safleoedd gwahanol.
Wrth ddisgrifio helaethiadau rhaid datgan eu maint a’u safle.
Ffactor graddfa
Mae maint helaethiad yn cael ei ddisgrifio gan ei ffactor graddfa.
Er enghraifft, mae ffactor graddfa \({2}\) yn golygu bod pob hyd ar y siâp newydd \({2}\) waith maint y gwreiddiol. Mae ffactor graddfa \({3}\) yn golygu bod pob hyd ar y siâp newydd \({3}\) gwaith maint y gwreiddiol.