Trawsfudo
I drawsfudo siâp, gelli di ei symud i fyny neu i lawr neu o ochr i ochr, ond paid â’i newid mewn unrhyw ffordd arall.
Pan mae siâp yn cael ei drawsfudo, rhaid symud pob un o’r fertigau (corneli) yn yr un modd yn union.
Image caption, Trawsfudo siâp
Siâp statig.
Image caption, Trawsfudo siâp
Siâp wedi ei drawsfudo ar draws.
Image caption, Trawsfudo siâp
Siâp wedi ei drawsfudo i fyny.
1 of 3
End of image gallery
Question
Pa siapiau sy’n drawsfudiadau o driongl \({A}\)?
Mae \({D}\) ac \({E}\) yn drawsfudiadau o driongl \({A}\).