Adlewyrchu
Os wyt ti’n edrych mewn drych, rwyt ti’n gweld dy lun. Rwyt ti (y gwrthrych) a dy lun (y ddelwedd) yn ymddangos fel petaech chi yr un pellter i ffwrdd o’r drych.
Mae gwrthrych a’i ddelwedd bob amser yr un pellter perpendicwlar o’r llinell ddrych. (Ystyr perpendicwlar ydy ‘ar ongl sgwâr i’.)
Edrycha ar yr enghreifftiau canlynol:
Mae pob pwynt a’i ddelwedd yr un pellter oddi wrth y llinell ddrych.