Cylchdroi
Os wyt ti’n rhoi darn o bapur ar fwrdd a gosod dy feiro yn ei ganol, gelli di gylchdroi’r papur tra’n cadw’r feiro mewn un safle.
Wrth wneud hyn rwyt ti’n cylchdroi’r papur o amgylch ei ganol.
Image caption, Cylchdroi o’r canol
Darn papur statig heb ddim cylchdroi.
Image caption, Cylchdroi o’r canol
Cylchdroi 90 gradd, chwarter tro gwrthglocwedd.
Image caption, Cylchdroi o’r canol
Cylchdroi 180 gradd, hanner tro gwrthglocwedd.
Image caption, Cylchdroi o’r canol
Cylchdroi 270 gradd, tri chwarter tro gwrthglocwedd.
Image caption, Cylchdroi o’r canol
Cylchdroi 360 gradd, tro llawn gwrthglocwedd.
1 of 5
Bydd cylchdro llawn (\({360}^\circ\)) i’r papur yn golygu bod y papur yn ôl yn ei safle gwreiddiol.
Yn yr enghraifft uchod, canol y cylchdro oedd canol y petryal, ond beth sy’n digwydd pan fydd canol y cylchdro y tu allan i’r petryal?
Image caption, Cylchdroi o ganolbwynt y tu allan i’r siâp
Petryal gyda phwynt cylchdroi y tu allan i’r siâp.
Image caption, Cylchdroi o ganolbwynt y tu allan i’r siâp
Chwarter tro, 90 gradd gwrthglocwedd.
Image caption, Cylchdroi o ganolbwynt y tu allan i’r siâp
Hanner tro, 180 gradd gwrthglocwedd.
Image caption, Cylchdroi o ganolbwynt y tu allan i’r siâp
Tri chwarter tro, 270 gradd gwrthglocwedd.
Image caption, Cylchdroi o ganolbwynt y tu allan i’r siâp
Tro llawn, 360 gradd gwrthglocwedd.
1 of 5