Data a gwybodaethStorfeydd cynorthwyol allanol

Mae cyfrifiaduron yn defnyddio dau fath o storfa - prif storfa, sy’n cynnwys ROM a RAM, a storfeydd cynorthwyol. Mae storfeydd cynorthwyol yn gallu bod yn fewnol, er enghraifft disg caled, neu’n allanol, er enghraifft gyriant fflach USB.

Part ofTGChData ac ansawdd data

Storfeydd cynorthwyol allanol

Llinell amser dyfeisiau sy’n gyfryngau storio, er enghraifft, tâp magnetig, cwmwl, casét, disg hyblyg, disg caled, cryno ddisg, DVD, USB, Blu-ray.

Disgiau caled allanol

Gall disg caled allanol storio llawer iawn o ddata, er enghraifft 1, ac mae’n bosibl ei blygio i mewn i gyfrifiadur drwy neu borth er mwyn cael mwy o le storio. Mae’r disgiau yr un fath yn y bôn â’r disg caled sydd yn dy gyfrifiadur, ond oherwydd y casin mae’n bosibl eu defnyddio’n allanol.

Mantais

  • capasiti uchel, er enghraifft, 1TB neu fwy, felly mae’n bosibl eu defnyddio i wneud copi wrth gefn o ddata neu i symud symiau mawr o ddata o un peiriant i un arall

Anfanteision

  • yn aml iawn maen nhw’n eithaf mawr, ac felly’n anghyfleus i’w cario o gwmpas
  • mae ganddyn nhw ddarnau sy’n symud felly maen nhw’n fwy tebygol o dorri, yn enwedig os ydyn nhw’n cael eu gollwng

Cof bach

Dyfais USB maint bawd yw cof bach. Mae’n cael ei ddefnyddio mewn ffordd debyg i ond ei fod yn cael ei roi yn y porth USB – mae’n cael ei weld gan y cyfrifiadur wedyn fel gyriant symudadwy. Maen nhw’n amrywio o ran maint o 512 i 32 GB a mwy gan ddibynnu ar y pris.

Manteision

  • gall cof bach ddal llawer iawn o ddata
  • maen nhw’n hawdd iawn i’w cario o gwmpas, felly gall y defnyddiwr fynd â nhw i bob man
  • maen nhw’n wydn, gan nad ydyn nhw’n cynnwys darnau sy’n symud

Anfantais

  • mae dyfeisiau storio cludadwy, yn gyffredinol, yn fwy tebygol o gael eu colli, eu dwyn neu eu difrodi

Cardiau Cof

Dyfais USB maint stamp yw cerdyn cof. Mae’n cael ei ddefnyddio mewn ffordd debyg i ddisg hyblyg ond mae’n cael ei roi mewn darllenydd cardiau cof neu drawsnewidydd USB - mae’n cael ei weld gan y cyfrifiadur wedyn fel gyriant symudadwy. Maen nhw’n amrywio o ran maint o 1 GB i 32 GB a mwy, gan ddibynnu ar y pris. Mae llawer o fformatau cardiau cof ar gael, ond er 2010 y cerdyn SD yw’r fformat sy’n cael ei ffafrio fwyaf.

Manteision

  • gall cardiau cof ddal llawer iawn o ddata
  • maen nhw’n hawdd iawn i’w cario o gwmpas, felly gall y defnyddiwr fynd â nhw i bob man
  • gall cyfarpar digidol, fel camerâu bach a ffonau symudol ddarllen ac ysgrifennu ar gardiau cof fel bod y defnyddiwr yn gallu cludo casgliadau mawr o ffotograffau, caneuon neu wybodaeth gydag ef/hi
  • maen nhw’n wydn, gan nad ydyn nhw’n cynnwys darnau sy’n symud

Anfantais

  • Cardiau cof, yn enwedig y cerdyn SD micro, yw’r dyfeisiau storio lleiaf sydd ar gael. Mae hyn yn golygu eu bod yn fwy tebygol o gael eu colli, eu dwyn neu eu difrodi.
  • Nid yw pob cyfrifiadur yn cynnwys darllenydd cardiau cof. Yn aml iawn bydd angen i ddefnyddwyr brynu darllenydd cardiau neu drawsnewidydd USB i weld y data ar gerdyn.

More guides on this topic