Dilysu dataDilysu

Mae dilysu a gwireddu yn ddwy ffordd o wirio bod y data sydd wedi cael eu mewnbynnu i gyfrifiadur yn gywir. Nid oes llawer o werth i ddata sy’n cael eu mewnbynnu’n anghywir.

Part ofTGChData ac ansawdd data

Dilysu

Er enghraifft, mae disgybl ysgol uwchradd yn debygol o fod rhwng 11 ac 16 oed. Mae’n bosibl rhaglennu’r cyfrifiadur i dderbyn rhifau rhwng 11 ac 16 yn unig. Gwiriad amrediad yw hwn.

Fodd bynnag, nid yw hyn yn gwarantu bod y rhif sy’n cael ei deipio i’r cyfrifiadur yn gywir. Er enghraifft, efallai fod disgybl yn 14 oed, ond os bydd 11 yn cael ei fewnbynnu bydd yn ddilys ond yn anghywir.

Enghraifft o wall dilysu yng nghronfa ddata ysgol uwchradd. Mae’r ysgol i’w gweld drwy’r ffenestr.

Dulliau dilysu

Mae’n bosibl defnyddio llawer o ddulliau dilysu i wirio’r data sy’n cael eu mewnbynnu.

Dull dilysuSut mae’n gweithioEnghraifft ohono
Gwiriad digidauMae’r digid olaf mewn cod, neu’r ddau ddigid olaf, yn cael eu defnyddio i wirio bod y digidau eraill yn gywirMae darllenwyr codau bar mewn archfarchnadoedd yn defnyddio’r dull gwirio digidau
Gwiriad fformatGwirio bod y data yn y fformat cywirMae rhif Yswiriant Gwladol ar ffurf LL 99 99 99 L, lle mae L yn cynrychioli unrhyw lythyren, a 9 yn cynrychioli unrhyw rif. Arian cyfred y DU yw Punnoedd Sterling sef GBP (ee £23.45) ond yn yr UDA yr arian cyfred yw US Doler sef USD (ee $5.20). Mae dyddiad yn gallu cael ei fformatio mewn gwahanol ffurf, ee 28/01/1999; 28/1/99; 28 Ionawr 1999.
Gwiriad hydGwirio nad yw’r data yn rhy fyr neu’n rhy hirCyfrinair y mae angen iddo fod yn chwe llythyren o hyd
Tabl am-edrychEdrych am werthoedd derbyniol mewn tablDim ond saith diwrnod posibl sydd mewn wythnos
Gwiriad presenoldebGwirio bod data wedi cael eu mewnbynnu i faesYn y rhan fwyaf o gronfeydd data nid yw’n bosibl gadael maes allweddol yn wag
Gwiriad amrediadGwirio bod gwerth yn dod o fewn yr amrediad penodedigRhaid i nifer yr oriau sy’n cael eu gweithio fod yn llai na 50 ac yn fwy na 0
Gwiriad sillafuYn edrych am eiriau mewn geiriadurWrth brosesu geiriau
Dull dilysuGwiriad digidau
Sut mae’n gweithioMae’r digid olaf mewn cod, neu’r ddau ddigid olaf, yn cael eu defnyddio i wirio bod y digidau eraill yn gywir
Enghraifft ohonoMae darllenwyr codau bar mewn archfarchnadoedd yn defnyddio’r dull gwirio digidau
Dull dilysuGwiriad fformat
Sut mae’n gweithioGwirio bod y data yn y fformat cywir
Enghraifft ohonoMae rhif Yswiriant Gwladol ar ffurf LL 99 99 99 L, lle mae L yn cynrychioli unrhyw lythyren, a 9 yn cynrychioli unrhyw rif. Arian cyfred y DU yw Punnoedd Sterling sef GBP (ee £23.45) ond yn yr UDA yr arian cyfred yw US Doler sef USD (ee $5.20). Mae dyddiad yn gallu cael ei fformatio mewn gwahanol ffurf, ee 28/01/1999; 28/1/99; 28 Ionawr 1999.
Dull dilysuGwiriad hyd
Sut mae’n gweithioGwirio nad yw’r data yn rhy fyr neu’n rhy hir
Enghraifft ohonoCyfrinair y mae angen iddo fod yn chwe llythyren o hyd
Dull dilysuTabl am-edrych
Sut mae’n gweithioEdrych am werthoedd derbyniol mewn tabl
Enghraifft ohonoDim ond saith diwrnod posibl sydd mewn wythnos
Dull dilysuGwiriad presenoldeb
Sut mae’n gweithioGwirio bod data wedi cael eu mewnbynnu i faes
Enghraifft ohonoYn y rhan fwyaf o gronfeydd data nid yw’n bosibl gadael maes allweddol yn wag
Dull dilysuGwiriad amrediad
Sut mae’n gweithioGwirio bod gwerth yn dod o fewn yr amrediad penodedig
Enghraifft ohonoRhaid i nifer yr oriau sy’n cael eu gweithio fod yn llai na 50 ac yn fwy na 0
Dull dilysuGwiriad sillafu
Sut mae’n gweithioYn edrych am eiriau mewn geiriadur
Enghraifft ohonoWrth brosesu geiriau

More guides on this topic