Data a gwybodaethStorio data

Mae cyfrifiaduron yn defnyddio dau fath o storfa - prif storfa, sy’n cynnwys ROM a RAM, a storfeydd cynorthwyol. Mae storfeydd cynorthwyol yn gallu bod yn fewnol, er enghraifft disg caled, neu’n allanol, er enghraifft gyriant fflach USB.

Part ofTGChData ac ansawdd data

Storio data

ROM a RAM

Sut mae consolau gemau cyfrifiadurol yn defnyddio caledwedd i greu profiad rhyngweithiol iawn i rai sy’n chwarae gemau fideo. (Cynnwys Saesneg)

Mae’r brif storfa (sef y cyfrifiadur) wedi’i rhannu’n Gof Darllen yn Unig (ROM) a Chof Hapgyrch (RAM).

ROM

ROM yw’r cof na all na defnyddiwr ei newid. Mae cof ROM yn dal i fodoli, hyd yn oed ar ôl i ti ddiffodd y cyfrifiadur. Er enghraifft, ROM sy’n storio’r cyfarwyddiadau sy’n gwneud i’r cyfrifiadur gychwyn y tro nesaf y bydd yn cael ei danio.

RAM

Mae RAM yn fath cyflym dros dro o gof. Yn y RAM y mae rhaglenni, a yn cael eu storio. Dyma rai enghreifftiau o bethau sy’n cael eu storio mewn RAM:

  • y
  • rhaglenni (apiau)
  • y rhyngwyneb defnyddiwr graffigol (GUI)

Os bydd y cyfrifiadur yn colli cyflenwad trydan, bydd yr holl ddata sy’n cael eu storio yn y RAM yn cael eu colli.

More guides on this topic