Storfeydd cynorthwyol allanol – disgiau optegol
Mae llawer o wahanol fathau o ddisgiau optegol, er bod pob un yn edrych yn ddigon tebyg.
CD (Cryno Ddisg)
Disgiau optegol sy’n defnyddio’r un dechnoleg â CDDisg crwn, plastig sy’n cael ei ddefnyddio i storio hyd at 700 MB o gerddoriaeth, fideo neu ddata. Mae CDs yn gyfrwng storio optegol, tebyg i DVDs a disgiau Blu-ray. cerddoriaeth. Maen nhw’n storio hyd at 700MB o dataGwerthoedd, llythrennau neu rifau fel arfer.. Mae’n bosibl defnyddio CDs ar gyfer rhaglen (ap)Rhaglen feddalwedd sy’n caniatáu i ddefnyddiwr gyflawni tasg benodol.amlgyfrwngDefnyddio nifer o fathau o allbynnau cyfryngau o gyfrifiadur er mwyn rhoi profiad mwy cyfoethog a mwy diddorol i’r defnyddiwr., er enghraifft gwyddoniaduron, a gallant storio lluniau, seiniau a chlipiau fideo neu unrhyw beth arall fydd yn ffitio.
Mae nifer o fformatau ar y farchnad, er enghraifft:
- CD-ROM – darllen yn unig. Mae’r data’n cael eu hysgrifennu arnyn nhw cyn iddyn nhw gael eu gwerthu.
- CD-R – CD-Recordable. Gall y defnyddiwr ysgrifennu data ar y CD unwaith neu ei lenwi dros gyfnod gan ddefnyddio mwy nag un sesiwn (ysgrifennu ar yr un disg ar adegau gwahanol).
- CD-RW – CD-ReWritable. Mae’n bosibl ysgrifennu ar y CD ac ailysgrifennu arno. Yn wahanol i ddisgiau amlsesiwn, mae’n bosibl ysgrifennu dros ddata sydd yno’n barod.
DVD (Disg Amlbwrpas Digidol)
Mae DVDs yr un faint â CDs o safbwynt ffisegol, ond maen nhw’n dal llawer mwy o ddata – gall disg un ochr ddal hyd at 4.7 GBGigabeit (GB) – mesur ar gyfer maint ffeiliau neu gapasiti storio, 1,024 megabeit, neu 1 biliwn o beitiau.. Mae DVDs yn cael eu defnyddio’n aml i storio fideo, felly yn aml iawn maen nhw’n cael eu mesur mewn munudau, er enghraifft 4.7 GB = 120 munud.
Mae nifer o wahanol fformatau ar y farchnad, er enghraifft:
- DVD-ROM – darllen yn unig. Mae’r data’n cael eu hysgrifennu arnyn nhw cyn iddyn nhw gael eu gwerthu.
- DVD-R – DVD-Recordable. Gall y defnyddiwr ysgrifennu data ar y DVD unwaith neu ei lenwi dros gyfnod gan ddefnyddio mwy nag un sesiwn.
- DVD-RW – DVD-ReWritable. Mae’n bosibl ysgrifennu ar y DVD ac ailysgrifennu arno. Yn wahanol i ddisgiau amlsesiwn, mae’n bosibl ysgrifennu dros ddata sydd yno’n barod.
Gyriannau CD/DVD
Er mwyn darllen data sydd ar CDs a DVDs, neu ysgrifennu data arnyn nhw, bydd angen i ti gael gyriant addas. Mae gyriannau CD/DVD yn gallu:
- darllen pob fformat CD a DVD
- ysgrifennu ar CD-R, CD-RW, DVD-R a DVD-RW
Mae data yn cael eu hysgrifennu ar ddisg a’u darllen oddi ar ddisg drwy ddefnyddio laser.