Capasiti storio a maint ffeiliau
Mae capasiti storio a maint ffeiliau’n cael eu mesur (o’r lleiaf i’r mwyaf) mewn:
- didau
- beitiau
- cilobeitiau
- megabeitiau
- gigabeitiau
- terabeitiau
Mae system weithreduY feddalwedd sy’n rheoli’r adnoddau caledwedd a meddalwedd mewn system gyfrifiadurol. yn talfyrru’r mesuriadau hyn, er enghraifft, mae 1 megabeit yn troi’n 1MB (megabeit).
Y berthynas rhwng mesuriadau
Mae’r tabl isod yn amlinellu’r berthynas rhwng didau (y lleiaf) a terabeitiau (y mwyaf):
| Maint | Hafal i |
| 8 did | 1 beit |
| 1000 beit | 1 cilobeit |
| 1000 cilobeit | 1 megabeit |
| 1000 megabeit | 1 gigabeit |
| 1000 gigabeit | 1 terabeit |
| Maint | 8 did |
|---|---|
| Hafal i | 1 beit |
| Maint | 1000 beit |
|---|---|
| Hafal i | 1 cilobeit |
| Maint | 1000 cilobeit |
|---|---|
| Hafal i | 1 megabeit |
| Maint | 1000 megabeit |
|---|---|
| Hafal i | 1 gigabeit |
| Maint | 1000 gigabeit |
|---|---|
| Hafal i | 1 terabeit |
Bydd maint ffeil a chapasiti dyfais storio bob amser yn cael ei ysgrifennu yn ei ffurf symlaf. Er enghraifft, byddai system weithredu yn cofnodi maint gyriant disg caledDyfais sy’n cael ei defnyddio i storio symiau mawr o ddata. 1 terabeit fel 1TB, nid fel 1000GB, er bod y ddau’n gywir.
Enghreifftiau o faint ffeiliau
Mae’r tabl isod yn rhestru ffeiliau sydd i’w gweld yn aml ar gyfrifiadur a’u maint arferol (cywasgedig):
| Ffeil | Maint y ffeil |
| Llun | 3MB |
| Cân | 5MB |
| Ffilm | 1-1.5GB |
| Ffeil | Llun |
|---|---|
| Maint y ffeil | 3MB |
| Ffeil | Cân |
|---|---|
| Maint y ffeil | 5MB |
| Ffeil | Ffilm |
|---|---|
| Maint y ffeil | 1-1.5GB |
Gall nifer o ffactorau ddylanwadu ar faint ffeil, ond yn y pen draw, y mwyaf o wybodaeth sy’n cael ei storio mewn ffeil, y mwyaf fydd maint y ffeil.