ArwynebeddCanfod sail neu uchder paralelogram

Arwynebedd siâp ydy mesuriad y gofod dau ddimensiwn mae’n ei orchuddio. Rydyn ni'n mesur arwynebedd siâp mewn sgwariau, ee centimetrau sgwâr, metrau sgwâr a chilometrau sgwâr.

Part ofMathemategArwynebedd, cyfaint a pherimedr

Canfod sail neu uchder paralelogram

Rwyt ti’n gwybod nawr sut i ganfod arwynebedd paralelogram, ond beth sy’n digwydd os oes angen i ti ganfod y sail neu’r uchder? Os wyt yn gwybod yr arwynebedd a naill ai'r sail neu'r uchder, dim ond ad-drefnu'r fformiwla sydd yn rhaid i ti ei wneud er mwyn darganfod yr hyd arall.

\({A} = {b}\times{h}\)

\({h} = {A}\div{b}\)

\({b} = {A}\div{h}\)

Question

Arwynebedd y paralelogram hwn ydy \({12}~{cm}^{2}\). Beth ydy ei uchder perpendicwlar?

Diagram arwynebedd paralelogram

Question

Canfydda hyd sail y paralelogram hwn.

Diagram arwynebedd paralelogram

More guides on this topic