Siapiau cyfansawdd
Mae sawl dull gwahanol ar gyfer canfod arwynebedd y siâp hwn.
Dull 1
Rhanna’r siâp yn sgwariau a phetryalau, canfydda arwynebedd pob un yn unigol ac wedyn eu hadio â’i gilydd.
\({Arwynebedd} = {16} + {16} + {48} = {80}~{cm}^{2}\)
Dull 2
Dychmyga mai petryal mawr ydy’r siâp gyda darn wedi ei dorri allan.
Canfydda arwynebedd y petryal mawr (\({12}\times{8}\)) ac wedyn tynna’r darn sydd wedi ei dorri allan (\({4}\times{4}\)).
\({Arwynebedd} = ({12}\times{8}) - ({4}\times{4}) = {96} - {16} = {80}~{cm}^{2}\)