CyfaintCanfod cyfaint drwy gyfrif ciwbiau

Cyfaint siâp ydy mesuriad y cyfan o’i ofod 3D (tri dimensiwn). Gelli di ddefnyddio’r fformiwlâu syml canlynol i dy helpu i ganfod cyfaint siapiau megis ciwboidau a phrismau.

Part ofMathemategArwynebedd, cyfaint a pherimedr

Canfod cyfaint drwy gyfrif ciwbiau

Mae cyfaint siâp yn mesur faint o ofod \({3D}\) (tri dimensiwn) y mae’n ei lenwi. Mae cyfaint yn cael ei fesur mewn ciwbiau.

Diagram cyfaint ciwb

Mae gan giwb centimetr ochrau \({1}~cm\) o hyd. Mae ganddo gyfaint o \({1}~cm^{3}\) (\({1}~cm\) wedi ei giwbio).

Diagram cyfaint ciwboid

Mae’r ciwboid hwn yn cynnwys \({12}\) o giwbiau. Mae gan bob ciwb gyfaint o \({1}~cm^{3}\). Felly cyfaint y ciwboid hwn ydy \({12}~cm^{3}\).

Question

Canfydda gyfaint y ciwboidau canlynol:

a)

Diagram cyfaint ciwb

b)

Diagram cyfaint ciwboid

More guides on this topic