CyfaintCyfaint prism

Cyfaint siâp ydy mesuriad y cyfan o’i ofod 3D (tri dimensiwn). Gelli di ddefnyddio’r fformiwlâu syml canlynol i dy helpu i ganfod cyfaint siapiau megis ciwboidau a phrismau.

Part ofMathemategArwynebedd, cyfaint a pherimedr

Cyfaint prism

Diagram cyfaint ciwboid

Rwyt ti’n gwybod eisoes mai cyfaint ciwboid ydy’r hyd wedi ei luosi â’i led wedi ei luosi â’i uchder.

\(({h}\times{ll}\times{u})\).

Arwynebedd y darn o’r ciwboid sydd wedi ei liwio (y trawstoriad) ydy \({lled}\times{uchder}\), felly gelli di ddweud hefyd mai cyfaint ciwboid ydy:

\({arwynebedd~y~trawstoriad}\times{hyd}\)

Gwahanol fathau o brismau

Mae’r fformiwla hon yn gweithio ar gyfer pob prism:

Diagram arwynebedd paralelogram
  1. \(\text{cyfaint~silindr}={arwynebedd~y~cylch}\times{hyd}\)
  2. \(\text{cyfaint~prism~trionglog}={arwynebedd~y~triongl}\times{hyd}\)
  3. \(\text{cyfaint~prism~siap~L}={arwynebedd~y~siap~L}\times{hyd}\)

Question

Beth ydy cyfaint y prism trionglog hwn?

Cyfaint prism trionglog

Question

Beth ydy cyfaint y prism hwn?

Cyfaint prism trionglog

More guides on this topic