PerimedrSiapiau syml

Perimedr siâp ydy cyfanswm y pellter o gwmpas ei ymyl. I gyfrifo perimedr siâp, y cwbl sydd raid ei wneud ydy adio hyd pob un o’i ochrau.

Part ofMathemategArwynebedd, cyfaint a pherimedr

Siapiau syml

Perimedr siâp ydy cyfanswm hyd ei ymylon.

Meddylia am forgrugyn yn cychwyn o un gornel blwch bach, sy’n mesur \({3}~{cm}\) wrth \({4}~{cm}\). Dychmyga ei fod yn cerdded yr holl ffordd o gwmpas ymyl y blwch. Pa mor bell fydd y morgrugyn wedi cerdded?

Diagram perimedr sgwâr

\({Perimedr} = {4} + {3} + {4} + {3} = {14}~{cm}\)

More guides on this topic