ArwynebeddTrionglau

Arwynebedd siâp ydy mesuriad y gofod dau ddimensiwn mae’n ei orchuddio. Rydyn ni'n mesur arwynebedd siâp mewn sgwariau, ee centimetrau sgwâr, metrau sgwâr a chilometrau sgwâr.

Part ofMathemategArwynebedd, cyfaint a pherimedr

Trionglau

Edrycha ar y triongl isod:

Diagram arwynebedd triongl

Os wyt ti’n lluosi’r sail â’r uchder perpendicwlar, rwyt ti’n cael arwynebedd petryal. Mae arwynebedd y triongl yn hanner arwynebedd y petryal.

Felly i ganfod arwynebedd triongl, lluosa’r sail â’r uchder perpendicwlar a rhannu â dau. Dyma’r fformiwla:

\({Arwynebedd} = \frac{{b}\times{h}}{2}\)

Question

Canfydda arwynebedd y triongl hwn:

Diagram arwynebedd triongl

More guides on this topic