Gwerth lleFfurf indecs safonol

Mae rhifau’n rhan o’n bywyd bob dydd. Peth defnyddiol ydy gallu ysgrifennu a disgrifio rhifau a gwneud cyfrifiadau rhif syml heb ddefnyddio cyfrifiannell.

Part ofMathemategGwerth lle

Ffurf indecs safonol

Enw arall ar ffurf indecs safonol ydy ffurf safonol. Mae’n ddefnyddiol iawn wrth ysgrifennu rhifau mawr iawn neu fach iawn.

Diagram yn dangos y pellter rhwng yr Haul a'r Ddaear

Yn y ffurf safonol, rydyn ni’n ysgrifennu'r rhif bob amser fel: \({A}\times{10}^{n}\)

Mae \({A}\) bob amser rhwng \({1}\) a \({10}\).

Mae \({n}\) yn dweud wrthon ni sawl lle i symud y pwynt degol.

Enghraifft

Ysgrifenna \({15,000,000}\) yn y ffurf indecs safonol.

Ateb

\({15,000,000} = {1.5}\times{10,000,000}\)

Gallwn ni ei ailysgrifennu hyn fel:

\({1.5}\times{10}\times{10}\times{10}\times{10}\times{10}\times{10}\times{10}\)

\(= {1.5}\times{10}^{7}\)

Gelli di drosi rhifau o’r ffurf safonol i rifau cyffredin, ac yn ôl eto. Edrycha ar yr enghreifftiau hyn:

\({3}\times{10}^{4} = {3}\times{10,000} = {30,000}\)

(Gan fod \({10}^{4} = {10}\times{10}\times{10}\times{10} = {10,000}\))

\({2,850,000} = {2.85}\times{1,000,000} = {2.85}\times{10}^{6}\)

Gwna'n siwr fod y rhif cyntaf rhwng \({1}\) a \({10}\).

\({0.000467} = {4.67}\times{0.0001} = {4.67}\times{10}^{-4}\)