Gwerth lleRhannu â 10, 100 a 1,000

Mae rhifau’n rhan o’n bywyd bob dydd. Peth defnyddiol ydy gallu ysgrifennu a disgrifio rhifau a gwneud cyfrifiadau rhif syml heb ddefnyddio cyfrifiannell.

Part ofMathemategGwerth lle

Rhannu â 10, 100 a 1,000

Rhannu â 10

Wrth rannu â \({10}\), bydd pob ffigur yn symud un lle i’r dde. Bydd miloedd yn mynd yn gannoedd, cannoedd yn mynd yn ddegau a degau’n mynd yn unedau.

Image gallerySkip image gallerySlide1 of 3, Diagram yn egluro lluosi â 1000, Rhannu â 10 Beth ydy 270 wedi’i rannu â 10?

Rhannu â 100

Wrth rannu â \({100}\), bydd pob ffigur yn symud dau le i’r dde. Bydd miloedd yn mynd yn ddegau, cannoedd yn mynd yn unedau, a degau ac unedau’n mynd yn ffracsiynau o uned.

Image gallerySkip image gallerySlide1 of 3, Diagram yn egluro rhannu â 10, Rhannu â 100 Beth ydy 1,300 wedi’i rannu â 100?

Rhannu â 1,000

Wrth rannu â \({1,000}\), bydd pob ffigur yn symud tri lle i’r dde. Bydd miloedd yn mynd yn unedau. Bydd cannoedd, degau ac unedau’n mynd yn ffracsiynau o uned.

Image gallerySkip image gallerySlide1 of 3, Diagram yn egluro rhannu â 100, Rhannu â 1,000 Beth ydy 4,000 wedi’i rannu â 1,000?