Lluosi â 10, 100 a 1,000
Lluosi â 10
Wrth luosi â \({10}\), bydd pob ffigur yn symud un lle i’r chwith. Bydd unedau’n mynd yn ddegau, degau’n mynd yn gannoedd a channoedd yn mynd yn filoedd.
Image caption, Lluosi â 10
Beth ydy 23 x 10?
Image caption, Lluosi â 10
Symuda bob ffigur un lle i'r chwith.
Image caption, Lluosi â 10
Mae pob ffigur wedi symud un lle i’r chwith. Mae bwlch yn y golofn ‘uned’. Does dim unedau, felly rho ‘0’. 23 x 10 = 230.
1 of 3
Lluosi â 100
Wrth luosi â \({100}\), bydd pob ffigur yn symud dau le i’r chwith. Bydd unedau’n mynd yn gannoedd, degau’n mynd yn filoedd a channoedd yn mynd yn ddegau o filoedd.
Image caption, Lluosi â 100
Beth ydy 12 x 100?
Image caption, Lluosi â 100
Symuda bob ffigur dau le i’r chwith.
Image caption, Lluosi â 100
Mae pob ffigur wedi symud dau le i’r chwith. Mae bwlch yn y golofn ‘deg’ a’r golofn ‘uned’. Does dim degau nac unedau, felly rho ‘0’ yn y naill golofn a’r llall. 12 x 100 = 1,200.
1 of 3
Lluosi â 1,000
Wrth luosi â \({1,000}\), bydd pob ffigur yn symud tri lle i’r chwith. Bydd unedau’n mynd yn filoedd, degau’n mynd yn ddegau o filoedd, a channoedd yn mynd yn gannoedd o filoedd.
Image caption, Lluosi â 1,000
Beth ydy 7 x 1,000?
Image caption, Lluosi â 1,000
Symuda bob ffigur tri lle i’r chwith.
Image caption, Lluosi â 1,000
Mae pob ffigur wedi symud tri lle i’r chwith. Mae bwlch yn y golofn ‘cant’, y golofn ‘deg’ a’r golofn ‘uned’. Does dim cannoedd, degau nac unedau, felly rho ‘0’ yn y tair colofn. 7 x 1,000 = 7,000.
1 of 3