Trefnu rhifau cyfan
Pan fydd gennyt ti gyfres o rifau mawr sydd heb fod mewn trefn rifol, weithiau mae’n anodd gwneud synnwyr ohonyn nhw.
Dyma dabl yn dangos elw dyddiol siop gerddoriaeth arlein, wedi ei ysgrifennu yn nhrefn y dyddiau:
| Dydd | Llun | Maw | Mer | Iau | Gwe | Sad | Sul |
| Elw | \(\pounds{5,934}\) | \(\pounds{7,656}\) | \(\pounds{7,573}\) | \(\pounds{8,678}\) | \(\pounds{10,834}\) | \(\pounds{14,976}\) | \(\pounds{5,004}\) |
| Elw | |
|---|---|
| Llun | \(\pounds{5,934}\) |
| Maw | \(\pounds{7,656}\) |
| Mer | \(\pounds{7,573}\) |
| Iau | \(\pounds{8,678}\) |
| Gwe | \(\pounds{10,834}\) |
| Sad | \(\pounds{14,976}\) |
| Sul | \(\pounds{5,004}\) |
Petaet ti’n gosod y rhifau hyn mewn tabl gwerthoedd lle, byddai’n haws eu gosod mewn trefn.
Edrycha ar bob colofn yn ei thro.
Ffigurau dydd Gwener a dydd Sadwrn ydy’r mwyaf gan fod gan y rhain ffigurau yn y golofn degau o filoedd. Yr un rhif sydd yn y golofn hon ar gyfer Gwener a Sadwrn, sef \({1}\). O edrych ar y golofn filoedd rydyn ni’n gweld bod \({4}\) yn y golofn filoedd ar gyfer dydd Sadwrn a \({0}\) yn y golofn filoedd ar gyfer dydd Gwener. Felly dydd Sadwrn sydd â’r rhif mwyaf.
Dyma’r tabl wedi ei ysgrifennu yn nhrefn y rhifau:
| Dydd | Sad | Gwe | Iau | Maw | Mer | Llun | Sul |
| Elw | \(\pounds{14,976}\) | \(\pounds{10,834}\) | \(\pounds{8,678}\) | \(\pounds{7,656}\) | \(\pounds{7,573}\) | \(\pounds{5,934}\) | \(\pounds{5,004}\) |
| Elw | |
|---|---|
| Sad | \(\pounds{14,976}\) |
| Gwe | \(\pounds{10,834}\) |
| Iau | \(\pounds{8,678}\) |
| Maw | \(\pounds{7,656}\) |
| Mer | \(\pounds{7,573}\) |
| Llun | \(\pounds{5,934}\) |
| Sul | \(\pounds{5,004}\) |