Astudiaeth achos: Yr Ail Ryfel Byd
Yn y clip canlynol, byddwch chi'n clywed Neville Chamberlain yn datgan rhyfel â'r Almaen yn 1939. Datganodd Prydain ryfel ar yr Almaen ar ôl iddyn nhw feddiannu Gwlad Pwyl.
Myfyrio a thrafod
- Oedd yr Ail Ryfel Byd yn rhyfel cyfiawn?
- Oedd y rhyfel hwn yn bodloni meini prawf y ddamcaniaeth Rhyfel Cyfiawn?
- Cafodd y rhyfel ei ymladd yn unol â meini prawf y ddamcaniaeth Rhyfel Cyfiawn?
- Beth fyddai Cristnogion sy'n heddychwyr yn ei ddweud am y rhyfel?