Cyfarfod y Cyfeillion yng Nghymru
Mae'r Crynwyr yn cydnabod bod gwerth pob unigolyn yn hafal a natur pob un yn unigryw. Mae hyn yn golygu gweithio i newid y systemau sy'n achosi anghyfiawnder ac yn atal gwir gymuned. Mae hefyd yn golygu gweithio gyda phobl sy'n dioddef anghyfiawnder, fel carcharorion a cheiswyr lloches.
Mae CrynwrAelod o Gymdeithas y Cyfeillion, enwad Cristnogol â'i gred ganolog yn datgan bod pob bod dynol yn cynnwys adlewyrchiad ar lun Duw. (y Crynwyr) yn grẅp heddychwrRhywun sy'n gwrthwynebu unrhyw fath o drais yn llwyr ac nad yw'n fodlon cymryd rhan mewn unrhyw agwedd ar ryfel. sydd wedi ei seilio ar Gristnogaeth. Maen nhw wedi gweithio dros heddwch ers cael eu creu yn yr 17eg ganrif. Mae'r Crynwyr fel arfer yn cyfeirio atyn nhw eu hunain fel 'Cyfeillion' ac maen nhw'n credu bod rhywbeth sanctaidd ym mhawb a bod hi'n bwysig osgoi trais bob amser.
Mae'r Cyfeillion yn gwrthwynebu pob math o drais, felly mae ganddynt gyfrifoldeb i chwilio am ffyrdd amgen o ymateb i wrthdaro ac anghyfiawnder.
Yn hanesyddol, mae'r Cyfeillion wedi gwrthod cymryd rhan mewn rhyfeloedd. Yn y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd, roedden nhw'n gwrthwynebydd cydwybodolPerson sy'n gwrthod ymladd mewn rhyfeloedd, oherwydd credoau personol cryf yn erbyn rhyfel.. Yn 1947, enillodd y Cyfeillion ym Mhrydain ac Unol Daleithiau America Gwobr Heddwch NobelGwobr ryngwladol uchel ei bri sy'n cael ei dyfarnu'n flynyddol am gyfraniad eithriadol i heddwch. am eu gwaith yn helpu pobl oedd wedi dioddef gwrthdaro yn yr Almaen, Ewrop ac Asia ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Roedden nhw'n darparu cymorth bwydBwyd sy'nc ael ei roi i bobl sy'n dioddef yn sgil trychinebau naturiol, rhyfel neu dlodi. ac yn helpu i ailadeiladu ardaloedd oedd wedi'u difrodi'n ddrwg yn y Rhyfel.
Dyma rai enghreifftiau o'r gwaith mae'r Cyfeillion yn ei wneud heddiw:
- ymgyrchu ac annog gwledydd i gael gwared ar arf niwclearDyfais ffrwydrol sy'n cael ei defnyddio fel arf. Yr arf mwyaf marwol a dinistriol sydd wedi ei ddatblygu gan ddyn. ac arfau angheuol eraill
- hyfforddi grwpiau ledled y byd ynglŷn â dulliau di-drais o ddatrys gwrthdaro
- protestio yn erbyn rhyfeloedd a gweithredoedd treisgar yn eu gwledydd eu hunain
- anfon gwirfoddolwrPerson sy'n cynnig ei amser neu ei sgiliau heb gael ei wobrwyo'n ariannol. i ardaloedd lle mae gwrthdaro, er mwyn cefnogi ymgyrchydd heddwchRhywun sy'n rhagweithiol o ran gweithio dros heddwch. lleol
- cadw swyddfeydd yn y Cenhedloedd UnedigY corff a ddilynodd Gynghrair y Cenhedloedd. Fe'i sefydlwyd yn 1945 fel mudiad rhyngwladol â'r nod o gadw'r heddwch, cynnal cyfraith ryngwladol a gosod safonau hawliau dynol., sy'n dod â gwahanol wledydd at ei gilydd i drafod materion fel arfau niwclear a heddwch