Beth yw ystyr heddychiaeth o fewn Cristnogaeth?
Mae heddychwrRhywun sy'n gwrthwynebu unrhyw fath o drais yn llwyr ac nad yw'n fodlon cymryd rhan mewn unrhyw agwedd ar ryfel. yn gwrthod unrhyw drais. Dydyn nhw ddim yn meddwl mai rhyfel yw'r ffordd o ddatrys gwrthdaro. Maen nhw'n credu bod angen defnyddio dulliau eraill heddychlon.
Roedd y Cristnogion cynnar yn dehongli gorchymynCyfraith neu gyfarwyddyd gan Dduw. Iesu i olygu nad oedden nhw'n cael ymladd mewn rhyfeloedd na bod yn dreisgar. Yn yr Efengyl yn ôl MathewAwdur un o'r pedair efengyl yn y Testament Newydd., dywedodd Iesu:
Gwyn eu byd y tangnefeddwyr, oherwydd cânt hwy eu galw'n blant i Dduw.
Maen nhw hefyd yn edrych ar esiampl bywyd Iesu fel rheswm arall dros fod yn heddychwyr. Pan ddaeth y milwyr i arestio Iesu, wnaeth e ddim ymladd yn ôl, a gorchmynnodd ei disgyblPerson sy'n dilyn rhywun arall ac yn dysgu ganddo. i adael iddyn nhw fynd ag ef.
Mae heddychwyr hefyd yn defnyddio'r ddysgeidiaeth yn y Y Deg GorchymynY rhestr o reolau y datguddodd Duw i Moses, sydd yn llyfrau Exodus a Deuteronomium yn yr Hen Destament. Mae'r Beibl yn cyfeirio at y Deg Gorchymyn yn syml fel 'dywediadau' neu 'ddatganiadau'. Enwau eraill ar y Deg Gorchymyn yw y Deg Dywediad neu'r Dengair. i gyfiawnhau eu safbwynt. Yn ExodusAil lyfr yr Hen Destament yn y Beibl a'r Ail Lyfr o'r pum llyfr yn y Torah. Yn llythrennol mae'n golygu 'ymadael'. mae'n dweud:
Na ladd.
Heddiw, mae heddychwyr yn perthyn i'r rhan fwyaf o enwadCangen o'r Eglwys Gristnogol. Cristnogol. Mae rhai enwadau Cristnogol yn dysgu eu haelodau mai heddychiaeth yw'r unig ymateb derbyniol i drais. Rhai enghreifftiau o grwpiau heddychlon yw'r MennoniaidEnwad Cristnogol sy'n enwog am eu credoau heddychol., yr AmishGrŵp Cristnogol traddodiadol. Is-grŵp o'r Mennoniaid, sy'n enwog am eu credoau heddychol a'u ffordd o fyw syml. a CrynwrAelod o Gymdeithas y Cyfeillion, enwad Cristnogol â'i gred ganolog yn datgan bod pob bod dynol yn cynnwys adlewyrchiad ar lun Duw. (y Crynwyr).
Question
Beth mae Cristnogion yn ei olygu wrth heddychiaeth?
Mae'r gair heddychiaeth yn cyfeirio at y gred fod rhyfel a thrais yn ddrwg o dan unrhyw amgylchiadau. Mae'r Crynwyr yn enghraifft o enwad Cristnogol heddychlon.
Gwrthwynebwyr cydwybodol
Mewn gwledydd lle mae pobl yn gallu cael eu gorfodi i ymuno â'r fyddin, bydd gwrthwynebydd cydwybodolPerson sy'n gwrthod ymladd mewn rhyfeloedd, oherwydd credoau personol cryf yn erbyn rhyfel. yn aml yn cael eu hanfon i wneud swyddogaeth sifilaidd yn lle hynny. Cafodd hawliau gwrthwynebwyr cydwybodol eu cadarnhau gan Cyngor Hawliau Dynol y Cenhedloedd UnedigCorff sy’n ymwneud â hyrwyddo a diogelu hawliau dynol i bawb. Cyn 2006, yr enw arno oedd Comisiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Dynol. (fforwm hawliau dynol rhyngwladol) yn 1995.
Question
Esbonia beth fyddai heddychwr yn ei ddweud am ryfel.
Byddai heddychwr yn dweud bod rhyfel yn beth drwg, oherwydd dydy heddychwr ddim yn credu mewn trais mewn unrhyw sefyllfa. Byddai heddychwr yn dadlau bod modd datrys pob problem a phob gwrthdaro drwy drafod a defnyddio dulliau heddychlon eraill, megis protestiadau heddychlon. Bydd rhai heddychwyr Cristnogol yn dadlau na wnaeth Iesu frwydro'n ôl pan gafodd ei arestio, ac felly dylen nhw ddilyn yr esiampl honno yn eu bywydau eu hunain.