Beth yw Rhyfel Cyfiawn?
Rhyfel CyfiawnRhyfel sy'n cael ei ymladd ar sail egwyddorion athronyddol a chrefyddol penodol. yw rhyfel sy'n cael ei ddatgan am resymau teg a gweddus, a'i frwydro mewn ffordd benodol. Dydy Rhyfel Cyfiawn ddim yn golygu rhyfel sy'n ‘dda’ fel y cyfryw – ond yn hytrach rhyfel mae Cristnogion yn teimlo ei fod yn angenrheidiol neu'n 'gyfiawn' o dan yr amgylchiadau, ar ôl i bob datrysiad arall gael cyfle ond methu. Mae'n ddrygioni angenrheidiol, neu'r dewis olaf.
Dydy Cristnogaeth ddim yn grefydd heddychwrRhywun sy'n gwrthwynebu unrhyw fath o drais yn llwyr ac nad yw'n fodlon cymryd rhan mewn unrhyw agwedd ar ryfel. er bod heddychwyr yn perthyn i'r rhan fwyaf o enwadCangen o'r Eglwys Gristnogol. Cristnogol. Mae rhai grwpiau Cristnogol, er enghraifft CrynwrAelod o Gymdeithas y Cyfeillion, enwad Cristnogol â'i gred ganolog yn datgan bod pob bod dynol yn cynnwys adlewyrchiad ar lun Duw. (y Crynwyr), yn gwrthwynebu rhyfel o dan unrhyw amgylchiadau.
Byddai'r rhan fwyaf o Gristnogion o blaid rhyfel pe bai'n bodloni safonau Rhyfel Cyfiawn.
Beth yw'r ddamcaniaeth Rhyfel Cyfiawn?
Sant Thomas AquinasMynach a diwinydd Cristnogol (1225 - 1274) a ddatblygodd ddamcaniaeth Rhyfel Cyfiawn. oedd y cyntaf i ddatblygu'r ddamcaniaeth Rhyfel Cyfiawn. Roedd ef yn un o diwinyddRhywun sy'n astudio dysgeidiaeth a chredoau crefyddol. mwyaf dylanwadol y 1,000 o flynyddoedd diwethaf. Roedd y ddamcaniaeth yn nodi amodau i'w defnyddio i farnu a ddylid mynd i ryfel ai peidio (jus ad bellumMeini prawf a ddefnyddir i wirio a yw hi'n iawn mynd i ryfel.) ac os oedd modd ei gyfiawnhau, a sut i'w ryfela (jus in belloMeini prawf a ddefnyddir i bennu sut y dylid cynnal rhyfel, neu ei ymladd.).
Amodau Sant Thomas Aquinas ar gyfer Rhyfel Cyfiawn – jus ad bellum
- Rhaid bod achos cyfiawn dros y rhyfel - er enghraifft yn erbyn goresgyniad, neu hunanamddiffyn - ac nid er mwyn cael cyfoeth neu bŵer.
- Rhaid i'r rhyfel gael ei ddatgan a'i reoli gan awdurdod priodol, er enghraifft y wladwriaeth neu ei harweinydd.
- Rhaid rhyfela er mwyn hybu daioni neu er mwyn osgoi drygioni, gyda'r bwriad o adfer heddwch a chyfiawnder ar ôl diwedd y rhyfel.
Amodau diweddarach wedi'u datblygu gan Gristnogion eraill - jus in bello
- Rhaid i'r rhyfel fod yn ddewis olaf ar ôl i bob datrysiad heddychlon, megis negodi, gael cyfle a methu.
- Dylid rhyfela mewn modd 'cymesur', heb ddim mwy o rym nag sydd ei angen i ennill, ac yn erbyn targedau cyfreithlon yn unig, hynny yw rhaid amddiffyn sifiliaid.
- Rhaid i'r daioni sy'n cael ei gyflawni gan y rhyfel fod yn fwy na'r drygioni arweiniodd at y rhyfel.
Mae'r ddamcaniaeth Rhyfel Cyfiawn, gyda rhai addasiadau, yn dal i gael ei defnyddio gan Gristnogion a phobl eraill heddiw fel canllaw i benderfynu a oes modd cyfiawnhau rhyfel.
Pam mae rhai Cristnogion o blaid egwyddor y ddamcaniaeth Rhyfel Cyfiawn?
Weithiau, bydd rhyfel yn angenrheidiol ac yn dderbyniol, hyd yn oed os nad yw'n beth da. Os yw byddin yn ceisio goresgyn gwlad, efallai mai rhyfel fydd yr unig ffordd o adfer cyfiawnder. Dywedodd y PabEsgob Rhufain a phennaeth yr Eglwys Gatholig. Benedict XVI mae'n ddyletswydd i'ch amddiffyn eich hun ac eraill
.
Pan fydd rhyfeloedd yn cael eu hymladd er mwyn amddiffyn pobl, mae'n bosibl edrych ar hynny fel enghraifft o ddysgeidiaeth Iesu:
Câr dy gymydog fel ti dy hun.
Weithiau, mae modd cyfiawnhau dicter cyfiawnDicter sy'n cael ei fynegi oherwydd anghyfiawnder., er enghraifft pan oedd Iesu yn ddig am bresenoldeb benthycwyr arian yn y Deml:
Gwnaeth chwip o gordenni, a gyrrodd hwy oll allan o'r deml, y defaid a'r ychen hefyd. Taflodd arian mân y cyfnewidwyr ar chwâl, a bwrw eu byrddau wyneb i waered.
Mae dicter cyfiawn yn golygu defnyddio'r dicter mewn ffordd feddylgar ac o dan reolaeth er mwyn sicrhau cyfiawnder neu amddiffyn pobl wan.