Beth mae Cristnogaeth yn ei ddysgu am ryfel a heddwch?
Dydy'r BeiblLlyfr sanctaidd y Cristnogion wedi'i rannu'n ddwy adran: yr Hen Destament a'r Testament Newydd. ddim yn rhoi ateb pendant i Gristnogion o ran a yw rhyfel yn cael ei ganiatáu ai peidio, ond mae ganddo lawer i'w ddweud am cyfiawnderPan fydd rhywun yn cael ei drin yn deg., sancteiddrwydd bywydY gred fod bywyd yn werthfawr neu'n sanctaidd, oherwydd bod pobl yn cael eu creu 'yn ddelwedd o Dduw'. I lawer o gredinwyr crefyddol, dim ond bywyd dynol sydd â'r statws arbennig hwn., pwysigrwydd datrys gwrthdaro a gweithio dros heddwch.
Mae'r rhan fwyaf o Gristnogion yn credu bod angen osgoi rhyfel os yw hynny'n bosibl, a bod rhaid gwneud pob ymdrech i ddatrys mater mewn modd heddychlon yn gyntaf. Mae llawer o Gristnogion yn gweld rhyfel fel rhywbeth sy'n digwydd o ganlyniad i fethu â byw yn unol â safonau Duw.
Mae llawer o addewidion yn yr Hen DestamentRhan gyntaf y Beibl Cristnogol sy'n cyfateb i'r Beibl Hebraeg ond sydd wedi'i drefnu'n wahanol. sy'n dweud bydd rhyfel yn dod i ben yn Nheyrnas berffaith Duw.
Yn EseiaLlyfr proffwydol yn y Beibl Hebraeg. mae'n dweud:
Curant eu cleddyfau'n geibiau, a'u gwaywffyn yn grymanau. Ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl, ac ni ddysgant ryfel mwyach.
Mae Sant PaulArferid ei alw yn Saul. Un a gafodd dröedigaeth at Gristnogaeth yn y ganrif gyntaf, ac a aeth yn ei flaen i ledu'r newyddion am Iesu Grist. yn dweud wrth Gristnogion yn RhufeiniaidEnw arall ar y Llythyr at y Rhufeiniaid gan Sant Paul. Dyma chweched llyfr y Testament Newydd. am gefnogi'r wladwriaeth:
Dyma pam hefyd yr ydych yn talu trethi, oherwydd gwasanaethu Duw y mae'r awdurdodau wrth fod yn ddyfal yn y gwaith hwn. Talwch i bob un ohonynt beth bynnag sy'n ddyledus, boed dreth, boed doll, boed barch, boed anrhydedd.
Mae'r rhan fwyaf o Gristnogion yn meddwl bod y pethau 'dyledus' hyn yn cynnwys ymladd dros dy wlad.
Fodd bynnag, mae rhai Cristnogion yn heddychwrRhywun sy'n gwrthwynebu unrhyw fath o drais yn llwyr ac nad yw'n fodlon cymryd rhan mewn unrhyw agwedd ar ryfel. ac yn credu does byth unrhyw ffordd i gyfiawnhau rhyfel.
Beth mae Cristnogion yn ei ddweud am gyfiawnder?
Mae Cristnogion yn credu bod cyfiawnder yn dod gan Dduw a dylen nhw weithio dros gyfiawnder ym mhob sefyllfa. Byddan nhw'n aml yn defnyddio SalmauLlyfr yn yr Hen Destament (Beibl Hebraeg/Iddewig) sy'n cynnwys caneuon o fawl ac addoliad. 82 o'r Hen Destament i gyfiawnhau'r safbwynt hwn:
Rhowch ddedfryd o blaid y gwan a'r amddifad; gwnewch gyfiawnder â'r truenus a'r diymgeledd. Gwaredwch y gwan a'r anghenus, achubwch hwy o law'r drygionus.
Sut mae'r ffaith bod bywyd yn sanctaidd yn berthnasol i ryfel?
Mae Cristnogion yn credu mai Duw sydd wedi rhoi bywyd iddyn nhw a bod pob bod dynol yn cael ei greu yn 'ddelwedd o Dduw'. Felly, mae Cristnogion yn credu bod bywyd yn cysegredigWedi'i gysegru neu ei wneud yn sanctaidd. a bod angen ei amddiffyn. Mae'r Y Deg GorchymynY rhestr o reolau y datguddodd Duw i Moses, sydd yn llyfrau Exodus a Deuteronomium yn yr Hen Destament. Mae'r Beibl yn cyfeirio at y Deg Gorchymyn yn syml fel 'dywediadau' neu 'ddatganiadau'. Enwau eraill ar y Deg Gorchymyn yw y Deg Dywediad neu'r Dengair. yn gwahardd llofruddiaeth ac ym MathewAwdur un o'r pedair efengyl yn y Testament Newydd., mae Iesu yn dweud wrth ei ddilynwyr:
Carwch eich gelynion, a gweddïwch dros y rhai sy'n eich erlid.
Mae rhai Cristnogion yn credu, ar rai adegau, mai datgan rhyfel yw'r unig ffordd o drechu anghyfiawnder neu amddiffyn y syniad o sancteiddrwydd bywyd. Mae Cristnogion eraill yn meddwl dylen nhw gadw at ddulliau heddychlon a di-drais. Dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion:
Os bydd rhywun yn dy daro ar dy foch dde, tro'r llall ato hefyd.
I gymheiriaid Iesu, byddai cael eu taro ar y foch dde yn sarhad difrifol iawn. Mae Iesu'n dweud wrth ei ddilynwyr am beidio ag ymateb yn yr un ffordd.
Yn fuan cyn iddo gael ei arestio, yn yr Efengyl yn ôl LucAwdur un o'r pedair efengyl yn y Testament Newydd., dywedodd Iesu wrth ei ddilynwyr:
Ac os nad oes gennych gleddyf, gwerthwch eich mantell a phrynu un.
Mae hyn yn awgrymu bod Iesu yn derbyn hawl rhywun i allu amddiffyn ei hun.