Datblygiadau ym maes gwybodaeth feddygolVesalius, Paré a Harvey

Mae gwybodaeth feddygol wedi datblygu dros y blynyddoedd ac wedi arwain at ddatblygiadau o ran trin afiechydon a chlefydau. Faint o ddatblygiad sydd wedi bod mewn gwybodaeth feddygol dros y canrifoedd?

Part ofHanesNewidiadau ym maes iechyd a meddygaeth, tua 1340 hyd heddiw

Vesalius, Paré a Harvey

Roedd cyfraniadau Vesalius, Paré a Harvey yn fawr iawn i wybodaeth feddygol. Roeddent yn gallu gwneud eu gwaith heb ymyrraeth.

  • Roedd yr Eglwys yn llai dylanwadol. Roedd gwyddonwyr yn gallu defnyddio dulliau mwy gwyddonol oedd yn cynnwys arbrofi, arsylwi a chofnodi canlyniadau.
  • Roeddent yn manteisio ar y wasg argraffu er mwyn lledaenu syniadau. Cyhoeddwyd llyfr Harvey yn ystod y ffair lyfrau flynyddol yn Frankfurt yn Yr Almaen, gan wybod y byddai pobl o bob rhan o Ewrop yn bresennol.
  • Roeddent yn cael cefnogaeth pobl ddylanwadol – roedd Paré yn feddyg i bedwar o frenhinoedd Ffrainc a Harvey i ddau frenin yn Lloegr, tra bod gan Vesalius gefnogaeth yr awdurdodau ym Mhadua.

Ond, er yr holl ddatblygiadau, roedd rhwystrau yn parhau.

  • Roedd llawer o feddygon yn gwrthod derbyn y wybodaeth newydd ac yn glynu at Galen a thriniaethau traddodiadol.
  • Roedd Paré yn cael ei ddirmygu gan mai dim ond barbwr-llawfeddyg ydoedd, nid meddyg wedi ei hyfforddi mewn prifysgol, ac oherwydd ei fod yn ysgrifennu ei lyfrau mewn Ffrangeg yn hytrach na Lladin.
  • Roedd rhai cleifion hefyd yn gwrthod syniadau newydd. Dywedodd Harvey wrth ffrind ei fod wedi colli nifer o gleifion ar ôl 1628 oherwydd ei syniadau gwallgof.

Er bod gwybodaeth feddygol wedi datblygu, roedd yr effaith ar fywyd bob dydd yn gyfyngedig. Roedd gwybodaeth am anatomi wedi gwella, ond roedd llawdriniaeth yn dal yn beryglus ac roedd cleifion yn marw os nad oedd rhwymynnau yn lân.

Roedd gan feddygon wybodaeth llawer gwell am y galon a’r system cylchrediad, ond bu’n rhaid aros tan y 1890au nes i lawfeddygon berfformio llawdriniaeth er mwyn atgyweirio calon oedd wedi ei niweidio.