Andreas Vesalius

Roedd cyfraniad mawr Andreas Vesalius ym maes anatomi.
Cyn Vesalius, roedd meddygon yn dibynnu ar waith Galen ac awduron hynafol eraill. Ond, cyrff anifeiliaid yn unig yr oedd Galen wedi eu dyrannu, oedd yn wahanol i gyrff pobl.
Yn 1537, dim ond yn 22 oed, daeth Vesalius yn athro meddygaeth ym Mhrifysgol Padua. Roedd yn mynnu y dylai ei fyfyrwyr meddygol berfformio dyraniadau er mwyn canfod sut oedd y corff dynol yn gweithio.
Bu i farnwr lleol gymryd diddordeb yng ngwaith Vesalius. Caniataodd i Vesalius ddefnyddio cyrff troseddwyr a ddienyddiwyd ar gyfer dyrannu. Nawr, roedd Vesalius yn gallu dyrannu cyrff dynol dro ar ôl tro.
Yn 1543 cyhoeddodd Vesalius ei lyfr, The Fabric of the Human Body. Cyflogodd artistiaid i greu lluniau cywir o’r corff dynol. Roedd y rhain yn rhoi gwybodaeth fanylach am anatomi dynol i feddygon.
Roedd Vesalius wedi profi bod rhai o syniadau Galen am anatomi yn anghywir, ee roedd Galen yn honni bod rhan isaf y gen yn cynnwys dau asgwrn. Roedd yn annog eraill i ymchwilio dros eu hunain a pheidio â derbyn athrawiaethau traddodiadol.