Ymchwil genetig ar ddiwedd yr 20fed ganrif
Syr Martin Evans
Un maes ymchwil genetig pwysig fu’r ymchwil i cell bonynCell sydd mewn ffoetysau, embryonau a rhai meinweoedd oedolion sy’n gallu creu pob math o gelloedd eraill. Enw arall a ddefnyddir yw bôn-gell.. Bu i’r Athro Martin Evans o Brifysgol Caerdydd gymryd celloedd bonyn o lygod a’u tyfu yn ei labordy.
Fe’i haddasodd yn enetig cyn eu rhoi yng nghrothau llygod. Roedd yr epil yn cario’r genyn addasedig ac yn ei drosglwyddo.
Mae’r datblygiad hwn, a elwir yn dargedu genynnau, wedi helpu i ddatblygu triniaethau newydd ar gyfer clefydau genetig. Mae gan celloedd bonyn y gallu i amnewid celloedd sydd wedi eu niweidio a thrin clefydau. Yn 2007, enillodd Evans Wobr Nobel am Feddygaeth am ei waith.
Targedu genynnau
Ar hyn o bryd mae targedu genynnau yn cael ei berfformio drwy drin mêr esgyrn neu gelloedd gwaed, na ellir ei drosglwyddo i’r genhedlaeth nesaf. Ond, gellid gwneud hynny hefyd drwy gelloedd wyau neu sberm (therapi genynnau llinell genhedlu), sy’n fwy dadleuol, oherwydd byddai’r genyn a fewnosodir yn cael ei drosglwyddo o un genhedlaeth i’r llall.
Er y byddai’n arbed i genedlaethau’r dyfodol mewn teulu rhag cael nam genetig penodol, gallai effeithio ar ddatblygiad ffetws neu gallai arwain at sgil effeithiau hirdymor. Nid yw’r bobl y gallai therapi genynnau llinell genhedlu effeithio arnynt wedi cael eu geni eto, felly ni allant ddewis cael y driniaeth neu beidio.