Datblygiadau ym maes gwybodaeth feddygolDadeni meddygol y 16eg a’r 17eg ganrif

Mae gwybodaeth feddygol wedi datblygu dros y blynyddoedd ac wedi arwain at ddatblygiadau o ran trin afiechydon a chlefydau. Faint o ddatblygiad sydd wedi bod mewn gwybodaeth feddygol dros y canrifoedd?

Part ofHanesNewidiadau ym maes iechyd a meddygaeth, tua 1340 hyd heddiw

Dadeni meddygol y 16eg a’r 17eg ganrif

Arweiniodd y Dadeni Dysg at ddiddordeb o’r newydd yng ngwybodaeth y Groegiaid hynafol a’r Rhufeiniaid, y gellid rhannu eu llyfrau meddygol yn hwylus bellach gyda dyfeisio’r wasg argraffu fecanyddol o 1440 ymlaen.

Daeth teithiau darganfod Christopher Columbus, er enghraifft, o 1492 â phlanhigion newydd ar gyfer meddyginiaethau perlysieuol, yn ogystal â thybaco. Astudiodd arlunwyr y Dadeni Dysg, fel Michelangelo a Leonardo Da Vinci, y corff dynol yn fanwl er mwyn ei efelychu mewn celf, a oedd yn helpu i ddatblygu gwybodaeth feddygol.

Ond, roedd y syniadau yma hefyd yn annog pobl i feddwl dros eu hunain, ac yn fuan roedden nhw'n dechrau herio hen syniadau, ee athrawiaethau a .

  • Roedd meddygon fel Andreas Vesalius a William Harvey yn dechrau arbrofi a datblygu syniadau newydd ynghylch anatomi a chylchrediad y corff.
  • Roedd dyfeisio argraffu yn golygu y gellid cynhyrchu llawlyfrau meddygol, gyda brasluniau cywir o’r corff dynol, yn rhatach ac roedd hynny’n helpu i ledaenu syniadau yn gyflym.
  • Roedd arfau newydd, ee powdwr gwn, yn gorfodi meddygon maes y gad i feddwl am ffyrdd newydd o drin clwyfau.

Roedd yna rai unigolion a wnaeth gyfraniadau pwysig i wybodaeth feddygol yn ystod y 16eg a’r 17eg ganrif.