Electrolysis - cynnwys estynedig [TGAU Cemeg yn unig]Electroplatio

Mae electrolysis yn golygu defnyddio trydan i ddadelfennu electrolytau i ffurfio elfennau. Gallwn ni ragfynegi beth fydd cynhyrchion electrolysis ar gyfer electrolyt penodol. Rydyn ni’n defnyddio electrolysis ar gyfer electroplatio, puro metelau a chynhyrchu sodiwm hydrocsid o heli.

Part ofCemegMetelau ac echdynnu metelau

Electroplatio

Mae yn cael ei ddefnyddio i electroplatio gwrthrychau (eu gorchuddio nhw â haen denau o fetel). Mae hyn yn ddefnyddiol i orchuddio metel rhatach â metel drutach, fel copr neu arian.

Sut mae’n gweithio

  • Yr negatif yw’r gwrthrych i’w electroplatio.
  • Yr electrod positif yw’r metel rwyt ti am orchuddio’r gwrthrych ag ef.
  • Mae’r yn hydoddiant o’r metel gorchudd, er enghraifft y metel nitrad neu sylffad.

Dyma ddwy enghraifft.

Electroplatio ag arian

Mae’r gwrthrych i’w blatio, fel llwy fetel, yn cael ei gysylltu â therfynell negatif y cyflenwad pŵer. Mae darn o arian yn cael ei gysylltu â’r derfynell bositif. Yr electrolyt yw hydoddiant arian nitrad.

Electroplatio â chopr

Mae’r gwrthrych i’w blatio, fel sosban fetel, yn cael ei gysylltu â therfynell negatif y cyflenwad pŵer. Mae darn o gopr yn cael ei gysylltu â’r derfynell bositif. Yr electrolyt yw hydoddiant copr(II) sylffad.

Defnyddio electrolysis i buro copr [Haen uwch yn unig]

Rydyn ni’n defnyddio electrolysis i buro copr. Mae trydan yn cael ei yrru drwy hydoddiannau sy’n cynnwys cyfansoddion copr, fel copr(II) sylffad. Mae’r anod (electrod positif) wedi’i wneud o gopr amhur ac mae’r catod (electrod negatif) wedi’i wneud o gopr pur.

Mae copr pur yn ffurfio ar y catod. Mae’r sioe sleidiau’n dangos sut mae hyn yn gweithio.

Image gallerySkip image gallerySlide1 of 3, Bicer â rhodenni copr pur ac amhur yn cael eu gostwng i mewn i hydoddiant copr (II) sylffad., Defnyddio electrolysis i buro copr 1. Gostwng rhodenni copr pur ac amhur i mewn i hydoddiant copr(II) sylffad mewn bicer

Yn ystod electrolysis, mae’r anod yn colli màs wrth i’r copr hydoddi, ac mae’r catod yn ennill màs wrth i’r copr gael ei ddyddodi arno.

Mae’r sioe sleidiau’n dangos beth sy’n digwydd wrth i ni ddefnyddio electrolysis i buro copr.

Image gallerySkip image gallerySlide1 of 3, Dwy roden gopr fertigol. Mae pedwar ïon Cu yn glynu at y rhoden ar y dde, a phedwar ïon Cu2+ yn y bwlch rhwng y rhodenni., Defnyddio electrolysis i buro copr 1. Mae pedwar ïon Cu yn glynu at y rhoden ar y dde, a phedwar ïon Cu<sup>2+</sup> yn y bwlch rhwng y rhodenni

Mae hanner hafaliad yn dangos beth sy’n digwydd ar un o’r electrodau yn ystod electrolysis. Mae wedi’u dangos fel e.

Dyma’r hanner hafaliadau:

  • anod - Cu → Cu2+ + 2e ()
  • catod - Cu2+ + 2e → Cu ()

Ocsidio sy’n digwydd ar yr anod oherwydd mae electronau yn cael eu colli. Rhydwytho sy’n digwydd ar y catod oherwydd mae electronau’n cael eu hennill.

Un ffordd o gofio hyn yw drwy ddefnyddio’r mnemonig Saesneg OIL RIG.

Oxidation Is Loss of electrons, Reduction Is Gain of electrons.