Electrolysis - cynnwys estynedig [TGAU Cemeg yn unig]Electrolysis hydoddiannau ïonig

Mae electrolysis yn golygu defnyddio trydan i ddadelfennu electrolytau i ffurfio elfennau. Gallwn ni ragfynegi beth fydd cynhyrchion electrolysis ar gyfer electrolyt penodol. Rydyn ni’n defnyddio electrolysis ar gyfer electroplatio, puro metelau a chynhyrchu sodiwm hydrocsid o heli.

Part ofCemegMetelau ac echdynnu metelau

Electrolysis hydoddiannau ïonig

Mae hydoddiannau dyfrllyd o yn gallu bod yn fwy cymhleth nag electroleiddio cyfansoddion , oherwydd mae’r moleciwlau dŵr yn gallu darparu hydrogen (H+) ac ïonau hydrocsid (OH), yn ogystal â’r ïonau o’r cyfansoddion ïonig.

Ar yr electrod negatif

Mae gwefr bositif ar ïonau metel ac ïonau hydrogen. Mae pa un o’r metel neu’r hydrogen sy’n ffurfio yn ystod electrolysis yn dibynnu ar safle’r metel yn y :

  • bydd y metel yn cael ei gynhyrchu os yw’n llai adweithiol na hydrogen
  • bydd hydrogen yn cael ei gynhyrchu os yw’r metel yn fwy adweithiol na hydrogen
Adweithedd cymharol rhai elfennau o'r mwyaf i'r lleiaf: potasiwm, sodiwm, calsiwm, magnesiwm, alwminiwm, carbon, sinc, haearn, tun, plwm, hydrogen, copr, arian, aur, platinwm.
Figure caption,
Cyfres adweithedd metelau – dydy carbon a hydrogen ddim yn fetelau, ond rydyn ni’n eu dangos nhw er mwyn cymharu

Er enghraifft, mae electrolysis hydoddiant copr(II) clorid yn cynhyrchu copr ar yr negatif. Fodd bynnag, mae electrolysis hydoddiant sodiwm clorid yn cynhyrchu hydrogen. Cofia, mae electrolysis hydoddiant sodiwm clorid yn cynhyrchu nwy clorin a nwy hydrogen, ond mae hefyd yn gadael hydoddiant sodiwm hydrocsid.

Ar yr electrod positif

Os yw’r ïon negatif o’r cyfansoddyn ïonig yn syml (fel Cl neu Br), mae’r elfen honno’n cael ei chynhyrchu. Os yw’r ïon negatif yn ïon cymhlyg (fel NO3, SO42–, CO32–), mae ocsigen yn cael ei gynhyrchu o’r ïon hydrocsid sy’n bresennol yn lle hynny.

Mae’r tabl yn crynhoi rhai o’r elfennau dylet ti ddisgwyl eu gweld yn ffurfio yn ystod electrolysis.

Ïon negatif mewn hydoddiantElfen sy’n cael ei rhyddhau ar yr electrod positif
Clorid, ClClorin, Cl2
Bromid, BrBromin, Br2
Ïodid, IÏodin, I2
Ïon negatif mewn hydoddiantClorid, Cl
Elfen sy’n cael ei rhyddhau ar yr electrod positifClorin, Cl2
Ïon negatif mewn hydoddiantBromid, Br
Elfen sy’n cael ei rhyddhau ar yr electrod positifBromin, Br2
Ïon negatif mewn hydoddiantÏodid, I
Elfen sy’n cael ei rhyddhau ar yr electrod positifÏodin, I2

Ar yr electrodau negatif a phositif

Mae’r tabl hwn yn dangos rhai cyfansoddion ïonig cyffredin (mewn hydoddiant), a’r elfennau sy’n cael eu rhyddhau wrth electroleiddio eu hydoddiannau gan ddefnyddio electrodau , fel electrodau carbon.

Sylwedd ïonigElfen ar –Elfen ar +
Copr(II) clorid, CuCl2Copr, CuClorin, Cl2
Sodiwm clorid, NaClHydrogen, H2Clorin, Cl2
Asid hydroclorig, HClHydrogen, H2Clorin, Cl2
Sylwedd ïonigCopr(II) clorid, CuCl2
Elfen ar –Copr, Cu
Elfen ar +Clorin, Cl2
Sylwedd ïonigSodiwm clorid, NaCl
Elfen ar –Hydrogen, H2
Elfen ar +Clorin, Cl2
Sylwedd ïonigAsid hydroclorig, HCl
Elfen ar –Hydrogen, H2
Elfen ar +Clorin, Cl2

Electrolysis hydoddiant sodiwm clorid (heli)

Fel sydd i’w weld uchod, bydd electrolysis hydoddiant sodiwm clorid yn cynhyrchu nwy clorin ar yr anod a nwy hydrogen ar y catod:

  • anod - 2Cl → Cl2 + 2e ()
  • catod - 2H+ + 2e → H2 ()

Yn ystod yr electrolysis, mae ïonau hydrogen a chlorid yn cael eu tynnu o’r hydoddiant ac mae ïonau sodiwm a hydrocsid yn cael eu gadael yn yr hydoddiant. Mae hyn yn golygu bod sodiwm hydrocsid hefyd yn ffurfio wrth electroleiddio hydoddiant sodiwm clorid. Mae’r broses hon yn cael ei gwneud ar raddfa ddiwydiannol gan ddefnyddio dŵr môr i gynhyrchu nwy hydrogen, nwy clorin a hydoddiant sodiwm hydrocsid.