Naturiolaeth a StanislavskiMethod gweithgaredd corfforol

Mae syniadau Konstantin Stanislavski, yr ymarferwr Rwsiaidd, yn ddylanwadol iawn. Roedd e'n credu mewn perfformiadau naturiolaidd sydd mor realistig â phosib. Galli di ddefnyddio ei dechnegau hefyd.

Part ofDramaArddulliau, genres ac ymarferwyr

Method gweithgaredd corfforol

Dychmyga weithgaredd syml megis glanhau dy ddannedd ac yna dychmyga ŵr yn glanhau ei ddannedd gan geisio meddwl sut i ddweud wrth ei wraig am ei feistres. Mae hyn yn enghraifft syml sy'n dangos sut y gall gweithred gorfforol ryddhau'r emosiynau angenrheidiol.

Is-destun

Gellir galw sgript drama yn destun. Yr is-destun ydy'r ystyr gwirioneddol a'r cymhelliad y tu ôl i'r llinellau sy'n cael eu dweud a'r gweithredoedd. Er enghraifft gallai'r arwres ddweud wrth yr arwr ‘Rwy'n dy garu di’ a gallen ni dybio mai dyma ydy'r diwedd hapus i stori dylwyth teg. Ond byddai'n ei fynegi'n wahanol iawn pe bai hi'n ofni ei fod e ar fin cerdded allan o'r berthynas.

Os

Dywedodd Stanislavski y dylai'r cymeriad ateb y cwestiwn ‘Beth fyddwn i'n ei wneud os byddwn i yn y sefyllfa hon?’ Gelwir y dechneg hon hefyd yn os hudol ac mae'n golygu bod yr actor yn rhoi ei hun yn sefyllfa'r cymeriad. Mae hyn yn ysgogi'r cymhelliad i alluogi'r actor i chwarae'r rhan.