Naturiolaeth a StanislavskiTheatr Gelfyddyd Mosgo

Mae syniadau Konstantin Stanislavski, yr ymarferwr Rwsiaidd, yn ddylanwadol iawn. Roedd e'n credu mewn perfformiadau naturiolaidd sydd mor realistig â phosib. Galli di ddefnyddio ei dechnegau hefyd.

Part ofDramaArddulliau, genres ac ymarferwyr

Theatr Gelfyddyd Mosgo

Sefydlwyd y cwmni ym 1898 gan Stanislavski a Vladimir Nemirovich-Danchenko. Roedd yn llwyddiannus ac yn hynod o ddylanwadol ym myd y theatr a goroesodd tan iddo rannu'n ddau gwmni ym 1987. Wrth reswm, cafodd ei ddylanwadu gan y o 1917 ymlaen.

Pan oedd Stalin yn rheoli Rwsia, roedd Stanislavski yn awyddus i'w gadw'n hapus er mwyn sicrhau y byddai'r theatr yn goroesi. Yn ystod y cyfnod hwn roedd gwaith y cwmni'n adlewyrchu llais gwleidyddol yr Undeb Sofietaidd, sef realaeth . Roedd Stanislavski yn gallu parhau i ddilyn ond roedd dramâu’r cwmni'n hyrwyddo credoau gwleidyddol sosialaidd. Parhaodd hyn tan 1970 pan gafwyd symudiad yn ôl at hanfod dull gweithredu Stanislavski.

Gwranda ar y rhaglen Saesneg hon gan BBC Radio 3 am waith a bywyd Stanislavski ar benblwydd ei eni 150 mlynedd yn ôl.