Technegau Stanislavski
Y System
Mae'r term hwn yn cyfeirio at y dulliau y byddai Stanislavski yn eu defnyddio i feithrin perfformiad da yn ei actorion. Mae'n canolbwyntio'n bennaf ar helpu actor i adalw'r emosiynau sydd eu hangen ar gyfer rhan. Paid â drysu 'actio method' gyda'r System. Actio method ydy sut roedd gwaith Stanislavski’n cael ei ddehongli gan eraill, yn benodol actorion a chyfarwyddwyr yn y diwydiant ffilm.
Amgylchiadau gwybyddus
Dyma'r wybodaeth am y cymeriad sydd gen ti ar y dechrau a'r ddrama gyflawn. Beth ydy oed y cymeriad? Beth ydy ei sefyllfa yn y ddrama ac mewn perthynas â chymeriadau eraill? Oes unrhyw nodiadau ar gael am y ddrama a'i chymeriadau? Efallai na fydd nodiadau a chyfarwyddiadau llwyfan o'r fath yn dweud popeth sydd ei angen arnat ti i ddatblygu cymeriad ond maen nhw'n fan cychwyn i ti ymchwilio i'r cwestiynau eraill.
Cof emosiynol
Cof emosiynol ydy pan fydd yr actor yn dod o hyd i brofiad gwirioneddol yn y gorffennol lle y teimlodd emosiwn tebyg i'r hyn sydd ei angen ar y rhan mae'n ei chwarae. Yna mae'n 'benthyg' y teimladau hynny i ddod â'r rhan yn fyw.
Yr hyn a wnaeth Stanislavski oedd darparu map ar gyfer archwilio'r hyn roedd yn ei alw’n "y ffordd ymwybodol honno at gatiau'r anymwybod", sef sylfaen theatr fodern. Ac mae'n fap na all unrhyw actor, hyd yn oed heddiw, ei anwybyddu.