Naturiolaeth a realaeth
Gall fod yn eithaf anodd gweld y gwahaniaeth rhwng naturiolaeth a realaeth. Ond mae nodweddion gwahanol i dy helpu i ddeall y derminoleg. Symudiad theatrig yn y 19eg ganrif oedd realaeth, oedd yn ceisio portreadu bywyd go iawn ar y llwyfan. Parhaodd Stanislavski i ddilyn realaeth yn frwd drwy gydol ei fywyd gwaith.
Mae naturiolaeth yn cael ei ddefnyddio’n aml i gyfeirio at yr un pethau ond gall hefyd olygu'r gred bod cymeriad dynol yn cael ei ffurfio gan yr hyn mae wedi ei etifeddu gan ei deulu a'i amgylchedd. Mae'n debyg mai gyda’r nofelydd o Ffrainc, Émile Zola y cysylltir y symudiad naturiolaeth llenyddol yn bennaf.
Cofia fod Stanislavski wedi ymrwymo i realaeth drwy gydol ei yrfa ac y daeth i sefyll yn erbyn y syniad gwyddonol o naturiolaeth. Cofia hefyd mai arbrofi oedd ei agwedd allweddol at y theatr. Gall fod cynyrchiadau nodweddiadol o ddramâu Chekhov gyda setiau eithriadol o realistig ond roedd Stanislavski hefyd, er enghraifft, yn ymchwilio i symbolaethDefnyddio gwrthrych neu ddelwedd i gynrychioli rhywbeth arall. Cyfleu syniad mewn modd barddonol/symbolaidd yn hytrach na llythrennol.. Aeth ati i wneud cynhyrchiad a ganmolwyd yn fawr o’r ddrama Othello gan Shakespeare, er ei fod yn ymddangos bod ei barddoniaeth y tu hwnt i ffiniau cynhyrchiad realaidd.

Os wyt ti’n trafod neu’n ystyried Stanislavski fel ymarferwr i fodelu dy waith arno, gwna'n siŵr dy fod yn symud y tu hwnt i gyffredinoli. Mae drama Henrik Ibsen, Gengangere (Ghosts yn Saesneg) yn enghraifft dda o ddrama sy'n realistig ac yn defnyddio symbolau pwerus megis yr haul. Yn y ddrama mae'r haul yn codi ac yn disgleirio ac yn taflu goleuni ar y cymeriadau nad oes modd ei gyrraedd. Mae’r cymeriadau’n cael eu dinistrio gan siffilisClefyd sy’n deillio o gysylltiad rhywiol sy'n achosi i'r ymennydd a'r corff ddirywio os nad ydy e'n cael ei drin., clefyd sydd ynddo'i hun yn cysylltu'n symbolaidd ag ymddygiad llwgr y tad yn y ddrama. Paid byth â cheisio gosod dramodydd neu ymarferydd theatr mewn un garfan rhy gul.

Mae ein gofynion yn syml, yn rhai arferol ac felly maen nhw'n anodd eu bodloni. Y cyfan rydyn ni'n gofyn amdano yw bod actor ar y llwyfan yn byw yn unol â chyfreithiau naturiol.