I Ble'r Aeth Haul y Bore? gan Eirug WynY cymeriadau: yr Apache

Mae'r nofel hon wedi ei seilio ar hanes Taith Fawr y Navaho ym 1864. Mae'n llawn gwrthdaro rhwng cymeriadau hanesyddol a dychmygol o blith y Navaho, yr Apache a'r Cotiau Glas.

Part ofLlenyddiaeth GymraegNofelau

Y cymeriadau: yr Apache

Chico – cymeriad dychmygol

Cafodd ei rieni eu lladd gan y Mecsicaniaid pan oedd tua 15 mlwydd oed. Cafodd ei fabwysiadu gan Geronimo, un o benaethiaid llwyth yr Apache. Gwelodd Geronimo ei fod yn heliwr a rhyfelwr cadarn ac mae’n cael ei baratoi i fod yn bennaeth yn y dyfodol.

Ar ddechrau’r nofel mae tua 24 mlwydd oed. Mae’n ŵr i Haul y Bore, sef merch Manuelito, un o ricos llwyth y Navaho. Mae Manuelito hefyd yn credu y bydd Chico yn bennaeth ar yr Apache wedi dyddiau Geronimo. Cafodd Chico a Haul y Bore fab o’r enw Chiquito ond ni chafodd Chico gyfle i weld ei fab yn fyw, dim ond gweld ei goeden.

Cafodd yr hanes am dreisio’i wraig a lladd ei blentyn gan yr hen wraig ddoeth Quanah. Mae’n dial ar y Capten Victor Dicks a’i ddynion ar ei ben ei hun gan ladd nifer ohonyn nhw drwy daflu casgen yn llawn blaenau saethau a phowdr du i dân eu gwersyll. Mae’n cael ei ddal gan Dicks a’i adael i farw ond mae’n ennyn parch sgowtiaid y Cotiau Glas, yr Arapaho hanner brid, ac maen nhw’n achub ei fywyd cyn i’r bleiddiaid ei fwyta’n fyw. Saethodd Dicks e yn ei bennau-gliniau a'i adael i farw. Mae hyn yn golygu bod gwendid mawr yn ei goesau drwy’r nofel – daw hyn i’r amlwg wrth ddwyn gwartheg yn Albuquerque.

Wrth drafod ei gynllun ar sut i ddial eto ar y Cotiau Glas, gyda Tanuah, un o sgowtiaid yr Arapaho, mae ei eiriau yn adlewyrchu ei gymeriad, Tyrd ti â cheffyl i mi, Tanuah, ac fe gei di weld pa mor anabl ydw i! Mae’n defnyddio’r modd gorchmynnol ac mae penderfyniad yn ei lais. Dyma lais cymeriad awdurdodol sy’n ein hatgoffa o Geronimo. Mae gwaed arweinydd yn sicr yn Chico.

Chiquito – cymeriad dychmygol

Ystyr ei enw ydy Chico bach ac mae’n fab i Haul y Bore (Navaho) a Chico (Apache). Mae ganddo ddau daid sy’n arweinwyr cryf ymysg llwythau’r Indiaid, sef Manuelito (Navaho a thad Haul y Bore) a Geronimo (Apache a llysdad Chico). Mae’n saith diwrnod oed ar ddechrau’r nofel.

Fe’i llofruddiwyd mewn modd erchyll o flaen ei fam gan y Capten Victor Dicks, un o’r Cotiau Glas. Rhoddwyd cleddyf yn ei stumog a thorrwyd ei ben. Mae’r hyn a ddigwyddodd iddo’n troi’n chwedl ymysg llwythau’r Indiaid ac yn fodd i ysbrydoli’r Indiaid i ddial ar y dyn gwyn. Dywed Kit Carson wrth y Cadfridog Carleton: Chlywsoch chi ddim am ‘Chiquito’, syr? Chlywsoch chi mo’r Indiaid yn sôn am ddial?

Mangas Coloradas – cymeriad hanesyddol

Pennaeth hynafol llwyth yr Apache sydd wedi llwyddo i gadw’r heddwch gyda’r dyn gwyn. Drwy amynedd a doethineb ... a bygwth! meddai Manuelito. Fe’i olynwyd gan Geronimo yn ddiweddarach.

Quanah – cymeriad dychmygol

Hen wraig ddoeth yr Apache. Mae hi’n 81 mlwydd oed ac wedi gweld pethau erchyll. Quanah adroddodd hanes lladd Chiquito a threisio Haul y Bore wrth Geronimo a Chico. Canu cyn adrodd yr hanes wrth Chico, y canu yn ei chynorthwyo i ddweud ei stori erchyll. (Mae hi’n ein hatgoffa o gymeriad Heledd ym marddoniaeth gynharaf Cymru. Mae Quanah yn crwydro ar ei phen ei hun drwy ganol dinistr ei chartref a llanast y gwersyll pan ddaw Chico o hyd iddi.)

Ar y Daith Faith i’r Bosque Redondo mae Quanah yn cael cymorth Haul y Bore i gerdded. Mae hi’n dweud wrth Haul y Bore nad oes gan Herrero Grande, sy’n Navaho, ddim yr un ysbryd dewr â Geronimo, sy’n Apache fel hi. Daw milwr i’w chwipio am ei bod yn gorffwyso wrth gerdded ar y Daith Faith ac mae Haul y Bore yn achub ei bywyd drwy sefyll rhwng y milwr a’r chwip.

Geronimo – cymeriad hanesyddol

Un o benboethiaid yr Apache. Roedd yn cydweithio’n llwyddiannus â Cochise i greu hafog ymysg y setlwyr gwyn. Mae’n amlwg bod Geronimo yn ymddwyn fel arweinydd wrth iddo dderbyn Kit Carson yn garcharor. Mae’n poeri yn wyneb Carson ac yn siarad yn rhyfelgar ag e – gwell gan Indiad ydi gweld pelydrau’r haul yn disgleirio ar ei boer ei hun nag ar ddagrau plant mewn newyn’ ac ‘yn gyntaf, caiff ddod gyda ni heddiw i weld drosto’i hun beth fu effaith y llosgi ar ysbryd yr Indiaid.

Cafodd hwyl fawr o weld ei boster a’i lun arno yn cynnig $500 am ei ddal yn fyw neu’n farw. Nid ydy Geronimo yn ildio gyda’r Navaho. Mae ganddo gynllun i adael am Mecsico dros y gaeaf a dychwelyd i’w tiroedd yn y gwanwyn. Geronimo! oedd yr enw a waeddodd Carson cyn saethu’r saeth a achubodd fywyd Herrero Grande pan oedd Dicks ar fin ei saethu. Mae hi’n amlwg bod nerth yn ei enw yn unig!

Cochise – cymeriad hanesyddol

Un o benboethiaid yr Apache a fe ydy’r un sy’n dal Kit Carson yn cysgu ar ei ffordd i Ffort Sumner. Caiff Cochise y fraint o lusgo Kit Carson y tu ôl i’w geffyl at draed Geronimo. Enw ei fab ydy Naiche. Cafodd Naiche ei ddal gan Carleton a roedd hyn yn bluen yn het y Cadfridog.