I Ble'r Aeth Haul y Bore? gan Eirug WynY cymeriadau: y Cotiau Glas

Mae'r nofel hon wedi ei seilio ar hanes Taith Fawr y Navaho ym 1864. Mae'n llawn gwrthdaro rhwng cymeriadau hanesyddol a dychmygol o blith y Navaho, yr Apache a'r Cotiau Glas.

Part ofLlenyddiaeth GymraegNofelau

Y cymeriadau: y Cotiau Glas

Is-gyrnol Kit Carson – cymeriad hanesyddol

Mae Kit Carson yn 47 mlwydd oed yn y nofel ac yn Is-gyrnol ym myddin y Cotiau Glas. Enw’r Navaho arno oedd Taflwr Rhaffau. Roedd yn credu’n gryf mewn uno taleithiau America a hefyd mewn dileu caethwasiaeth. Mae ei wyneb yn greithiau byw wedi sawl hen ysgarmes, mae’n moeli ac mae mwstas trwchus ganddo. Roedd e’n rhyfelwr penigamp ac arweinydd heb ei ail.

Roedd Carson yn deall yr Indiaid ac roedden nhw’n ei barchu. Roedd Kit Carson wedi bod yn byw ymhlith yr Indiaid ac wedi cyd-fyw â merch o lwyth y Cheyenne. Roedd e hefyd yn dad i ferch o lwyth yr Arapaho. Priododd wraig o’r enw Joseffa a gadael y fyddin ond roedd e’n anhapus iawn a phenderfynodd ddychwelyd.

Anfonodd y Cadfridog Carleton am gymorth Carson i symud y Navaho i Bosque Redondo. Roedd Carson yn deall bod yr anochel wedi dod a bod rhaid symud yr Indiaid er mwyn eu gwarchod yn ogystal â sicrhau tir i’r setlwyr gwyn. Er hynny, nid oedd yn hapus gyda’r gorchymyn. Doedd Carson ddim yn gallu credu y byddai’r Cotiau Glas yn anfon y Navaho i dir gwael ac anffrwythlon. Yn amlwg nid oedd wedi gweld Bosque Redondo cyn ceisio eu symud yno.

Cadfridog James Henry Carleton – cymeriad hanesyddol

Cadfridog ym myddin y Cotiau Glas ydy Carleton. Daeth Carleton yn gyfrifol am Ffort Defiance yn dilyn rhyddhau’r Cyrnol Edward Canby o’i ddyletswyddau yno ym 1862. Cyn hynny bu’n gyfrifol am symud 2000 o Apache o ddyffryn y Rio Grande i’r Bosque Redondo. Arweiniodd Carleton y Capten Victor Dicks a’r Capten Paddy Graydon wrth drechu y Mescaleros, llwyth o Apache. Fe dwyllodd yr Indiaid drwy ffugio heddwch gan ladd yr arweinwyr a chludo pum cant a hanner ohonyn nhw i’r Bosque. Gwnaeth hyn cyn dechrau ar y gwaith o symud y Navaho. (Nid ydy’r stori hon yn hanesyddol gywir ond mae’n hanesyddol gywir bod y Mescaleros wedi cael eu symud i Bosque Redondo cyn y Navaho.)

Gadawodd i Kit Carson wneud y gwaith o symud y Navaho oherwydd nad oedden nhw mor dreisgar â’r llwythau eraill ac roedd angen bod yn fwy diplomyddol a siarad gyda nhw. Efallai bod Carleton yn adnabod ei hun yn dda – nid oedd siarad â’r Indiaid yn un o’i gryfderau. Efallai y byddai wedi delio â nhw ei hunan pe bai’r Navaho yn fwy treisgar. Mae’n cyhuddo Carson o siarad â’i galon (yn hytrach na’i ben) wrth drafod yr Indiaid.

Mae awgrym bod naill ai ofn Dicks ar Carleton neu ei fod yn cau ei lygaid i’w weithredoedd wrth ymdrin â’r Indiaid ac nid ydy Carson yn credu y byddai Carleton yn gwneud dim i Dicks. Ymateb Carleton i adroddiad Dicks, yn dilyn ei ymosodiad ar wersyll yr Apache a threisio Haul y Bore ydy, Mae pethau fel hyn yn digwydd mewn rhyfel. Mae’r dyfyniad hwn yn dangos sut y gall Carleton esgusodi a derbyn unrhyw drais yn erbyn yr Indiaid. Mae’n credu mai milwr mewn rhyfel ydy e ac felly rhaid derbyn bod pobl ddiniwed a diamddiffyn yn mynd i gael eu lladd. Pan mae Carson yn cwestiynu hyn, mae Carleton yn dangos ei awdurdod ac yn sgwario at Carson gan fynnu ei fod yn dilyn ei orchmynion. Serch hynny, mae Carleton yn amlwg yn parchu Carson gan ei fod yn gofyn iddo, Beth fyddi di’n ei wneud nesa? – mae’n amlwg nad ydy Carleton yn siŵr sut i ddelio â Dicks fel person nac fel milwr.

Gwnaeth gamgymeriad mawr adeg brwydr Ffort Defiance. Wrth roi gorchmynion i’r Capten Gregory mae’r milwr yn ei gymeriad yn mwynhau’r syniad o frwydro ond yn ei falchder diystyrodd gryfder a grym dialedd Geronimo. Mae’r cwestiynu yn dilyn y frwydr hon yn adlewyrchu gwendidau mawr yn ei gymeriad, Oedd o’n rhy feddal hefo’r Indiaid? Tybed? Yn dilyn y frwydr hon, mae Carleton fel pe bai’n ochri mwy â Dicks a’i ddulliau treisgar er mwyn cyflawni gorchmynion yr Arlywydd yn Washington. Mae’n ymbellhau oddi wrth Carson a’r parch sydd gan hwnnw tuag at yr Indiaid. Mae’r awdur fel pe bai’n awgrymu bod yr erchylltra sy’n dilyn, a’r Daith Faith ei hun yn arbennig, yn deillio o wendidau Carleton a’i amcanion personol yntau, wrth iddo geisio profi ei hun i’r Cyrnol Canby.

Victor Dicks – cymeriad dychmygol

Capten ym myddin y Cotiau Glas ydy Victor Dicks. Mae’n ŵr mawr cydnerth tua 45 mlwydd oed â barf goch yn cuddio’r rhan fwyaf o’i wyneb. Mae’n cnoi baco ac mae ei ddannedd yn fudr oherwydd hynny. Mae ganddo graith wen o dan ei lygad chwith.

Mae’n gymeriad treisgar a chynllwyngar. Rydyn ni’n clywed amdano’n twyllo’r Apache drwy gynnig anrhegion iddyn nhw ac yfed wisgi gyda nhw, yna’n eu saethu’n farw. Mae Dicks yn hoff iawn o eiriau’r Cadfridog Sherridan, Yr unig Indiad da oedd Indiad marw. Pan ymosododd Dicks ar wersyll o Indiaid Apache, treisiodd un o’r merched (Haul y Bore) o flaen ei ddynion. Cyn hynny fe roddodd ei gleddyf drwy stumog ei phlentyn bach saith niwrnod oed (Chiquito) ac yna torri ei ben o flaen ei fam. Mae ei weithredoedd yn erchyll a’i ymddygiad yn ffiaidd.

Capten Gregory – cymeriad dychmygol

Adeg Brwydr Ffort Defiance dyma’r Capten a anfonodd Carleton o’r ffort i ymosod ar Geronimo.

Sarjant di-enw – cymeriad dychmygol

Carleton eisiau sicrwydd ganddo fod ei benderfyniad i ymosod ar Geronimo wedi bod yn un doeth.

Corporal di-enw – cymeriad dychmygol

Mae’n gwarchod Carson yn ei gell ond yn rhoi gwn ar blât bwyd er mwyn iddo allu dianc oherwydd ei fod yn anhapus iawn â dulliau Dicks.

Capten Patrick O’Connor – cymeriad dychmygol

Gwyddel mawr, barfog ydy’r capten hwn a fe sy’n cael y cyfrifoldeb o arwain yr Indiaid ar y Daith Faith wedi i Victor Dicks gael ei saethu â saeth gan Chico a’i anafu’n ddifrifol. Mae ganddo well perthynas na Dicks â’r Indiaid sydd dan ei ofal ac mae’n siarad yn bwyllog â Herrero Grande. Mae O’Connor hefyd yn adnabod Carson ac yn ei gyfarch fel ‘Kit!’ ac yn rhannu gwydraid o wisgi ag e. Mae O’Connor yn rhoi cyfle i Carson achub ei hun rhag cosbau mae'n eu hwynebu gan ei fyddin ei hun. Mae’n cytuno mynd â llythyr ysgrifennodd Carson at Sherman yn egluro ei sefyllfa. O’Connor hefyd sy’n dweud wrth Carson bod Chico wedi cael ei ladd a bod Haul y Bore wedi ei dal.

William Tecumseh Sherman – cymeriad hanesyddol

Nid ydyn ni’n cyfarfod y cymeriad hwn yn y nofel ond mae’n Gadfridog ym myddin y Cotiau Glas ac mae gan Kit Carson barch mawr ato. Mae Carson yn gofyn i’r Capten Patrick O’Connor fynd â llythyr ato yn egluro ei sefyllfa. Dim ond i Sherman y mae Carson yn fodlon ildio – nid i Carleton na Canby. Mae Carson yn gobeithio y gallai Sherman roi geirda iddo pe bai’n wynebu cael ei ddisgyblu.

Cyrnol Edward Richard Sprigg Canby – cymeriad hanesyddol

Daeth Herrero Grande, Manuelito a ricos eraill y Navaho at Canby yn Ffort Wingate i arwyddo cytundeb heddwch. Yn dilyn Brwydr Ffort Defiance mae Carleton yn anfon neges ato yn gofyn am fwy o filwyr. Mae Canby yn gwrthod anfon mwy o filwyr at Carleton (mae’n amlwg nad ydyn nhw’n gyfeillion) ac yn ei gyhuddo o fethu amddiffyn y ffort ei hun heb sôn am allu amddiffyn y setlwyr gwyn.

Mae Canby yn bygwth gosod rhywun arall yn safle Carleton yn Ffort Defiance os nad ydy’n llwyddo i ddilyn gorchmynion yr Arlywydd yn Washington. Mae’r cyhuddiadau a’r bygythiadau hyn yn gwneud i Carleton fod eisiau profi i Canby ei fod wedi gwneud cam mawr ag e. Mae Carson yn llwyddo i ddychryn Carleton drwy awgrymu y dylai Canby fod yn bresennol yn ei gwrt-marsial a deallwn yma fod ar Carleton ofn Canby.