Electronau a grwpiau
Darn o’r tabl cyfnodol
Colofnau yn y tabl cyfnodol – grwpiau
- Enw’r colofnau fertigol yn y tabl cyfnodolCynrychioliad ar ffurf tabl o’r holl elfennau rydyn ni’n gwybod amdanyn nhw yn eu trefn ar sail rhif atomig, ee mae’r holl nwyon nobl i’w gweld ar ochr dde y tabl cyfnodol. yw grwpiau.
- Mae’r elfenSylwedd sydd wedi'i wneud o un math o atom yn unig. mewn unrhyw un golofn fertigol yn yr un grŵp.
- Mae’r grwpiau wedi’u rhifo o’r chwith i’r dde.
- Mae gan elfennau yn yr un grŵp priodweddNodwedd rhywbeth. Mae priodweddau cemegol yn cynnwys yr adweithiau y gall sylwedd gymryd rhan ynddyn nhw. Mae priodweddau ffisegol yn cynnwys lliw a berwbwynt. cemegol tebyg i’w gilydd.
- Mae nifer yr electronGronyn isatomig yw electron, sydd â gwefr negatif a'i fàs yn ddibwys o'i gymharu â phroton a niwtron. ym mhlisgyn allanol pob elfen mewn grŵp yr un fath â rhif y grŵp.
Enghreifftiau
- Mae gan holl elfennau Grŵp 1 – lithiwm (Li), sodiwm (Na), potasiwm (K), rwbidiwm (Rb), cesiwm (Cs) a ffranciwm (Fr) – un electron yn y plisgyn allanol.
- Mae gan elfennau Grŵp 7 – fflworin (F), clorin (Cl), bromin (Br), ïodin (I) ac astatin (At) – saith electron yn y plisgyn allanol.
- Mae gan elfennau Grŵp 0 – heliwm (He), neon (Ne), argon (Ar), crypton (Kr), senon (Xe) a radon (Rn) – blisg allanol llawn. Weithiau caiff Grŵp 0 ei alw’n Grŵp 8.
Rhesi yn y tabl cyfnodol – cyfnodau
Mae elfennau yn yr un rhes lorweddol yn yr un cyfnod. Mae’r cyfnodau wedi’u rhifo o’r top i’r gwaelod.
Mae rhif y cyfnod yr un fath â nifer y plisg electronau sy’n cynnwys electronau.