Grwpiau a chyfnodau
Mae’r holl wahanol elfenSylwedd sydd wedi'i wneud o un math o atom yn unig. wedi’u trefnu yn y tabl cyfnodol.
Dyma brif nodweddion y tabl:
- enw’r rhesi llorweddol yw cyfnodau
- enw’r colofnau fertigol yw grwpiau
- mae elfennau yn yr un grŵp yn debyg i’w gilydd
- mae’r metelau ar y chwith ac mae’r anfetelau ar y dde (mae hydrogen yn anfetel ond mae’n aml yn cael ei roi yn y canol)
- mae’r prif grwpiau wedi’u rhifo o 1 i 7 o’r chwith i’r dde, a’r grŵp olaf ar y dde yw Grŵp 0
- rydyn ni’n rhoi’r metelau trosiannol yn y bloc rhwng Grŵp 2 a Grŵp 3
- dim ond dwy elfen sydd yng Nghyfnod 1 (hydrogen a heliwm)
Mae’r llinell igam-ogam yn y diagram hwn yn gwahanu’r metelau, ar y chwith, a’r anfetelau, ar y dde.
Metelau, nid anfetelau, yw’r rhan fwyaf o elfennau.
Mae gan bob elfen ei symbol cemegol ei hun, sydd wedi’i wneud o lythrennau. Dim ond elfennau sydd i’w gweld yn y tabl cyfnodol, byth cyfansoddynSylwedd sy'n cael ei ffurfio gan uniad cemegol dwy neu ragor o elfennau drwy ffurfio bond neu fondiau.. Er enghraifft, dydy sylweddau fel dŵr a chopr sylffad ddim yn y tabl cyfnodol, oherwydd cyfansoddion ydyn nhw.