Adeileddau electronig
Mae adeiledd electronig atomMae pob elfen wedi'i gwneud o atomau. Mae atom wedi'i wneud o niwclews sy’n cynnwys protonau a niwtronau, wedi'i amgylchynu ag electronau. yn disgrifio sut mae’r electronGronyn isatomig yw electron, sydd â gwefr negatif a'i fàs yn ddibwys o'i gymharu â phroton a niwtron. wedi’u trefnu. Gallwn ni ddangos hyn â rhifau neu â diagram.
Er enghraifft, lithiwm. Mae’r diagram yn dangos pob plisgyn fel cylch o gwmpas y niwclewsRhan ganolog atom. Mae’n cynnwys protonau a niwtronau, a dyma lle mae’r rhan fwyaf o fàs yr atom. Mwy nag un niwclews yw niwclysau., ac mae pob electron wedi’i gynrychioli â dot. Rydyn ni’n ysgrifennu adeiledd electronig lithiwm fel 2,1 (sy’n dangos bod gan atomau lithiwm dri electron, dau yn y plisgyn cyntaf ac un yn yr ail blisgyn).