Metelau, anfetelau a meteloidau
Wrth symud o’r chwith i’r dde ar draws cyfnodRhes o elfennau yn y tabl cyfnodol., mae’r elfenSylwedd sydd wedi'i wneud o un math o atom yn unig. yn mynd yn llai metelig. Mae hyn yn gysylltiedig â’r cynnydd yn nifer yr electronGronyn isatomig yw electron, sydd â gwefr negatif a'i fàs yn ddibwys o'i gymharu â phroton a niwtron. ym mhlisgyn allanol yr atomMae pob elfen wedi'i gwneud o atomau. Mae atom wedi'i wneud o niwclews sy’n cynnwys protonau a niwtronau, wedi'i amgylchynu ag electronau.. Mae’r atomau’n mynd yn fwy tebygol o ennill neu rannu electronau, yn hytrach na’u colli nhw, wrth ffurfio cyfansoddynSylwedd sy'n cael ei ffurfio gan uniad cemegol dwy neu ragor o elfennau drwy ffurfio bond neu fondiau..
Metelau
Mae metelau’n tueddu i rannu priodweddNodwedd rhywbeth. Mae priodweddau cemegol yn cynnwys yr adweithiau y gall sylwedd gymryd rhan ynddyn nhw. Mae priodweddau ffisegol yn cynnwys lliw a berwbwynt. tebyg. Maen nhw i gyd yn dargludyddDefnydd sy’n caniatáu i wefr symud drwyddo’n rhwydd. trydan a gwres da ac maen nhw i gyd yn loyw (sgleiniog wrth gael eu torri). Mae’r rhan fwyaf o fetelau fel arfer yn rhannu’r priodweddau hyn:
- ymdoddbwynt uchel
- caled (anodd eu crafu)
- hydrin (gallu cael ei guro i mewn i siâp)
- hydwyth (gallu cael ei dynnu’n wifrau)
Mae rhai eithriadau i hyn. Er enghraifft, mae mercwri yn hylif ar dymheredd ystafell. Mae’r metelau yn Grŵp 1, fel lithiwm, sodiwm a photasiwm, i gyd yn feddal.

Anfetelau
Mae gan anfetelau amrywiaeth o briodweddau, ond ychydig iawn ohonynt sy’n dda am ddargludo trydan. Mae graffit (un o ffurfiau carbon) yn enghraifft brin o anfetel sy’n dargludoProses sy’n caniatáu i drydan, gwres neu ffurfiau eraill ar egni basio trwodd. trydan yn dda iawn.
Mae gan lawer o anfetelau ymdoddbwyntiau a berwbwyntiau isel. Pan mae anfetelau mewn cyflwr solid, maen nhw fel arfer yn frau felly alli di ddim eu curo nhw i mewn i siâp.
Meteloidau
Mae gan yr elfennau sydd rhwng y metelau a’r anfetelau yn y tabl cyfnodol briodweddau sy’n gymysgedd o briodweddau metelau ac anfetelau. Maen nhw'n cael eu galw’n meteloidau neu’n lled-fetelau. Mae’r elfennau hyn yn agos at y llinell igam-ogam sy’n gwahanu’r metelau a’r anfetelau.
Enghreifftiau o feteloidau
- Carbon – solid pŵl, llwyd tywyll brau (priodweddau anfetelig) ond ymdoddbwynt uchel a dargludydd trydan a gwres (priodweddau metelig).
- Silicon – solid llwyd sgleiniog, dargludydd trydanol ac ymdoddbwynt uchel (priodweddau metelig) ond brau iawn a dwysedd isel (priodweddau anfetelig).