Astudiaeth achos – Eva Mozes Kor
Mae Eva Mozes Kor yn un o oroeswyr yr Holocost. Collodd ei rhieni, ynghyd â’i dwy chwaer hŷn, yng ngwersyll crynhoi Auschwitz yn ystod yr Holocost.
Llwyddodd Eva a’i gefeilles, Miriam, i oroesi’r Holocost, er iddyn nhw ddioddef profiadau erchyll.
Mae Eva wedi rhoi sawl cyfweliad am ei phrofiadau brawychus. Un o’r pethau y bydd yn siarad amdanyn nhw’n aml yw ei maddeuant i’r Natsïaid. Mae hi’n disgrifio’i maddeuant fel ffordd o’i helpu i ddelio â’i phrofiadau.
Rwy’n credu bod maddeuant yn beth mor bwerus. Mae’n rhad ac am ddim. Mae’n gweithio. Does dim sgil-effeithiau iddo. A dyma beth sydd ei angen ar ein byd, ar wahân i gosb.
Question
Beth yw ystyr maddeuant?
Mae maddeuant yn golygu esgusodi rhywun am gamwedd a wnaethant. Mae’n digwydd pan na fyddwch yn dal dig tuag at y person hwnnw mwyach ac na fyddwch mwyach yn ceisio dial yn eu herbyn.