Yom Kippur
Yom KippurYom Kippur yw Dydd y Cymod, pan fydd Iddewon yn gwneud ymdrech arbennig i gyflawni'r teshuva. Dyma un diwrnod sy'n cael ei neilltuo er mwyn gwneud iawn am bechodau'r flwyddyn flaenorol., neu Ddydd y Cymod yn Gymraeg, yw un o’r dyddiau pwysicaf yn y calendr Iddewig. Mae’n digwydd ddeg diwrnod wedi Rosh HashanahGŵyl y Flwyddyn Newydd Iddewig. Mae'n ddathliad o greu'r byd. Y gred yw bydd Duw yn barnu pob person ar yr adeg hon., Blwyddyn Newydd yr Iddewon.
Gelwir y deg diwrnod hyn yn Ddyddiau Edifeirwch, cyfnod o edifarhau pryd y bydd Iddewon yn gofyn am faddeuant Duw am dramgwyddau’r flwyddyn flaenorol.
Un ddefod sy’n cael ei chadw gan rai yw cyd-gerdded at afon neu at y môr a gwagio eu pocedi i’r dŵr, gan fwrw eu pechodau allan yn symbolaidd.
Mae Iddewon yn credu bod Duw ar Yom Kippur yn gwneud y penderfyniad terfynol ar sut flwyddyn fydd yr un nesaf i bob un. Caiff Llyfr Bywyd ei gau a’i selio, a bydd pawb sydd wedi edifarhau’n iawn am eu pechodau yn cael blwyddyn newydd dda.