MaddeuantMaddeuant mewn Iddewiaeth

Mae Iddewiaeth yn dysgu bod rhyfel yn angenrheidiol weithiau fel math ar hunanamddiffyniad er mwyn creu heddwch. Mae maddeuant yn ddyletswydd, neu mitzvah mewn Iddewiaeth, a chaiff ei grybwyll yn y Torah. Felly mae Yom Kippur, neu Ddydd y Cymod, yn un o'r dyddiau pwysicaf yn y calendr Iddewig.

Part ofAstudiaethau CrefyddolDaioni a drygioni - Uned 1

Maddeuant mewn Iddewiaeth

Mae maddeuant yn gryf mewn Iddewiaeth ac yn ddyletswydd, neu , y dylai Iddewon wneud eu gorau glas i ufuddhau iddo. Ceir dysgeidiaeth am faddeuant yn y Torah.

Nid wyt i gasáu dy frawd yn dy galon.
Lefiticus 19:17
Pwy sydd dduw fel ti, yn maddau anwiredd, ac yn mynd heibio i drosedd gweddill ei etifeddiaeth? Nid yw’n dal ei ddig am byth, ond ymhyfryda mewn trugaredd.
Micha 7:18

Mae Iddewiaeth yn dysgu bod bodau dynol, am eu bod wedi cael ewyllys rhydd, yn gyfrifol am eu gweithredoedd eu hunain. Os gwnânt rywbeth drwg, yna rhaid iddynt geisio maddeuant. Dim ond y dioddefwr all roi maddeuant.

Mae Iddewon yn rhoi pwyslais mawr ar , neu edifeirwch. Dyma pryd y bydd Iddewon yn mynd ati i geisio gwneud iawn am eu camweddau. Gwnânt hyn drwy’r camau isod:

  • myfyrio ar eu camweddau
  • ceisio maddeuant am eu camweddau
  • gweddïo
  • troi at y Torah am arweiniad

More guides on this topic