MaddeuantIddewiaeth: trafod rhyfel a heddwch

Mae Iddewiaeth yn dysgu bod rhyfel yn angenrheidiol weithiau fel math ar hunanamddiffyniad er mwyn creu heddwch. Mae maddeuant yn ddyletswydd, neu mitzvah mewn Iddewiaeth, a chaiff ei grybwyll yn y Torah. Felly mae Yom Kippur, neu Ddydd y Cymod, yn un o'r dyddiau pwysicaf yn y calendr Iddewig.

Part ofAstudiaethau CrefyddolDaioni a drygioni - Uned 1

Beth mae Iddewiaeth yn ei ddysgu am ryfel a heddwch?

Mae Iddewiaeth yn dysgu bod rhyfel yn angenrheidiol weithiau mewn hunan-amddiffyniad ac er mwyn sicrhau heddwch. Gellir ei gyfiawnhau, felly.

Yr Hen Destament

Sonnir am heddwch yn y . Er bod y Tenakh yn clodfori’r rhyfelwr dewr sy’n ymladd mewn rhyfel sanctaidd neu y credir bod Duw’n ei gefnogi, mae hefyd yn cyfeirio at genhedloedd yn dod at ei gilydd yn gytûn:

Ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl, ac ni ddysgant ryfel mwyach.
Eseia 2:4

Mae yn rhoi neges glir ar destun rhyfel a heddwch:

Amser i garu, ac amser i gasáu, amser i ryfel, ac amser i heddwch.
Pregethwr 3:8

Mae’r darn hwn yn awgrymu er y bydd Iddewon bob amser yn ymdrechu i sicrhau heddwch, mae’n ymddangos bod rhyfel weithiau’n anochel o hyd. Gall hyn fod yn arbennig o wir os oes angen i grŵp neu genedl weithredu i’w hamddiffyn ei hun neu os yw ar fin cael ei hymosod arni.

Y Deg Gorchymyn

Credir y cafodd y , sydd wedi’u rhestru yn y Beibl Hebraeg, eu rhoi i gan Dduw. Mae’r Gorchmynion hyn i fod i greu heddwch a chytgord ymysg dynol ryw. Dyma un o’r Gorchmynion:

Na ladd.
Exodus 20:13

Petai pawb yn ufuddhau i’r gorchymyn hwn, byddai’n anodd iawn rhyfela. Am y rheswm hwn mae rhai Iddewon yn wrthwynebwyr cydwybodol. Mae gwrthwynebwyr cydwybodol yn gwrthod ymladd mewn rhyfeloedd, oherwydd credoau personol cryf yn erbyn rhyfel. Mae eraill yn heddychwyr, sy’n golygu eu bod yn credu nad oes cyfiawnhad o gwbl dros ryfel a thrais.

Pa bryd mae rhyfel yn dderbyniol?

Dylai Iddewon osgoi rhyfel ar bob cyfrif ond deallir mai rhyfel weithiau yw’r unig ffordd i ddatrys problemau a dod â heddwch, pan fydd pob ymgais arall wedi methu. Gall fod angen taro i atal y gelyn rhag taro’n gyntaf. Gelwir hyn yn .

Mewn achosion o hunan-amddiffyn, mae Iddewon yn credu bod rhyfel yn dderbyniol, er enghraifft er mwyn i rywun sydd dan ymosodiad gael ei amddiffyn ei hun. Mae’r yn dweud ei bod yn foesol dderbyniol lladd i arbed eich bywyd eich hun.

Diogelu bywyd

Mae Iddewiaeth yn dysgu bod rhaid i fodau dynol beidio â dinistrio bywyd, ond ei ddiogelu. Duw greodd fywyd, ac felly Duw biau bywyd. Dim ond Duw all gymryd bywyd, nid bodau dynol. Mae cymryd bywyd yn bechod ac yn groes i ewyllys Duw.

Yn , llyfr cyntaf y , eglurir bod Duw wedi creu’r byd ar gyfer dynol ryw. Mae rhyfel yn lladd ac yn dinistrio’r hyn a wnaeth Duw ac, fel y Cread, mae gan Iddewon ddyletswydd i warchod a gofalu am bopeth a grëwyd, gan gynnwys bodau dynol, natur a’r blaned.

Question

Disgrifiwch ddysgeidiaeth yr Iddewon ar ryfel a gwrthdaro.

More guides on this topic