MaddeuantBeth yw Rhyfel Cyfiawn?

Mae Iddewiaeth yn dysgu bod rhyfel yn angenrheidiol weithiau fel math ar hunanamddiffyniad er mwyn creu heddwch. Mae maddeuant yn ddyletswydd, neu mitzvah mewn Iddewiaeth, a chaiff ei grybwyll yn y Torah. Felly mae Yom Kippur, neu Ddydd y Cymod, yn un o'r dyddiau pwysicaf yn y calendr Iddewig.

Part ofAstudiaethau CrefyddolDaioni a drygioni - Uned 1

Beth yw Rhyfel Cyfiawn?

Mae dysgeidiaeth Iddewig yn awgrymu bod rhyfel i sicrhau neu roi terfyn ar ormes yn dderbyniol:

Daw’r cleddyf i’r byd oherwydd oedi cyfiawnder a gwadu cyfiawnder.
Moeseg y Tadau

Mae yn rhyfel moesol dderbyniol y mae’n rhaid ei ymladd am resymau cyfiawn fel:

  • gwarchod a hunan-amddiffyn
  • atal drwg mwy
  • da yn erbyn drwg
  • adfer cyfraith a threfn
  • lle mae ymdrechion wedi’u gwneud eisoes i osgoi rhyfel

Mae Iddewiaeth yn draddodiadol wedi nodi dau fath o ryfel y gellir eu hymladd ac mae unrhyw fath arall o ymladd wedi’i wahardd. Mae llawer o ddadlau ynghylch a ellir cymhwyso’r ddau fath hyn o ryfel i sefyllfaoedd heddiw.

Milchemet mitzvah

Rhyfel wedi’i orchymyn gan Dduw yw Milchemet mitzvah ac mae’n debyg i . Gelwir hyn yn ‘rhyfel gorfodol’ ac felly mae’n rhaid ei ymladd drwy orchymyn Duw ac er ei anrhydedd. Amodau’r math hwn o ryfel yw bod yn rhaid i’r gelyn fod wedi ymosod gyntaf. Sonnir am enghraifft o ryfel gorfodol yn yr ysgrythurau Iddewig pan ymladdodd a’r i ddychwelyd i .

Yn awr, croesa di a’r holl bobl hyn yr Iorddonen ... Rhof i chwi bob llecyn y bydd gwadn eich troed yn cerdded drosto ... Bydd wrol a dewr; oherwydd ti fydd yn rhoi i’r bobl hyn feddiant o’r wlad yr addewais ei rhoi i’w tadau.
Josua 1:2-6

Milchemet reshut

‘Rhyfel dewisol’ yw Milchemet reshut a gellid ei alw’n Rhyfel Cyfiawn. Mae’n gofyn am ganiatâd awdurdod Iddewig. Rhaid cynnig heddwch cyn mynd i ryfel a rhaid bod wedi rhoi cynnig ar ymdrechion i osgoi rhyfel ac wedi methu. Amod arall yw na ddylid niweidio dinasyddion ac mai cyfyngedig fydd unrhyw ddifrod i adeiladau.

Yn y modd hwn mae Iddewiaeth yn dangos pryder dros bethau gwerthfawr ar wahân i fodau dynol. Ni ddylai Iddewon ddinistrio coed ffrwythau na dim arall sydd eu hangen ar gyfer bywyd. Byddai dinistrio’r pethau hyn yn rhwystro cymuned rhag ail-ymsefydlu ar ôl rhyfel.

More guides on this topic