Tablau effeithiol
Mae tabl yn gweithio orau:
- pan fydd data rhifiadol yn cael eu darllen ar i lawr, ac nid ar draws, hynny yw yn cael eu harddangos mewn colofnau yn hytrach na rhesi
- pan fydd rhifau yn cael eu harddangos yn eu ffurf symlaf, ee £3.2 miliwn yn hytrach na £3,200,000
- pan fydd gan y tabl deitl a rhif, yn enwedig os oes mwy nag un tabl mewn dogfen, ee Tabl 1, Tabl 2
- pan fydd y tabl yn nodi o ble mae’r wybodaeth rifiadol yn dod, hynny yw y ffynhonnell
- pan fydd y colofnau’n gul (cyn belled bod digon o le i’r wybodaeth), oherwydd mae colofnau llydan yn gwneud tablau yn anodd i’w darllen