Cymharu data arwahanol a data di-dor
Rydyn ni'n gallu cymharu data arwahanol a data di-dor drwy edrych ar y ffordd mae dŵr yn dod allan o'r tap.
Mae tap sy'n gollwng diferion yn araf bach yn dangos data arwahanol, oherwydd mae’n bosibl cyfrif pob diferyn unigol. Bydd y data a fydd yn cael eu casglu yn dangos nifer y diferion.
Mae tap sy'n pistyllio â dŵr yn enghraifft o ddata di-dor. Byddai’n amhosibl cyfrif nifer y diferion, ond mae’n bosibl mesur cyfaint dŵr unrhyw bryd. Gallai’r cyfaint hwn fod o unrhyw werth, ee 2 litr, 2.2 litr neu 5.755 litr.
Question
Edrycha ar y datganiadau a ganlyn, a phenderfyna a yw’r data yn ddata arwahanol neu’n ddata di-dor.
- pwysau’r disgyblion yn nosbarth 5b
- nifer y siocledi sydd mewn gwahanol focsys 500 g
- faint o amser mae’n ei gymryd i redeg 100 metr
- Pwysau’r disgyblion yn nosbarth 5b – di-dor. Mae pwysau yn ddata mesuradwy a gall pwysau disgyblion fod o unrhyw werth.
- Nifer y siocledi sydd mewn gwahanol focsys 500 g – arwahanol. Bydd angen cyfrif faint o siocledi sydd ym mhob bocs 500 g.
- Faint o amser mae’n ei gymryd i redeg 100 metr – di-dor. Mae amser yn ddata mesuradwy a gall yr amser mae’n ei gymryd i redeg 100 metr fod o unrhyw werth.
Arddangos data
Ar ôl casglu data, mae’n ddefnyddiol eu rhoi mewn siart, graff neu ddiagram.
Mae’n bwysig iawn ein bod yn dewis y siart cywir i arddangos gwybodaeth rifiadol, oherwydd bydd angen i’r darllenydd allu deall y siart yn hawdd. Os byddi di’n dewis siart amhriodol, efallai na fydd y darllenydd yn gallu deall yr wybodaeth sydd ynddo.
Y cam cyntaf yw penderfynu pa fath o ddata rhifiadol sydd gen ti, er mwyn dewis y math gorau o siart i arddangos y data:
- os yw dy ddata yn cynnwys rhifau cyfan sy’n cael eu cyfrif yn hytrach na’u mesur, mae gen ti ddata arwahanol
- os yw dy ddata yn fesuradwy ac yn gallu bod o unrhyw werth, mae gen ti ddata di-dor