Llythrennedd ddigidolData arwahanol

Mae’n bwysig deall y gwahanol fathau o ddata y gallwn eu defnyddio i greu siartiau, graffiau a thablau. Drwy drefnu gwybodaeth yn glir mae’n bosibl sicrhau bod y darllenydd yn deall y cynnwys.

Part ofCenedlaethol: Sylfaen CA4Project unigol

Data arwahanol

Dyma ganlyniadau arolwg diweddar. Roedd yr arolwg yn edrych ar nifer yr anifeiliaid anwes sydd gan bob aelod o’r dosbarth, a pha fath o anifail anwes sydd ganddynt.

Tabl ar gyfer mathau o anifeiliaid anwes: Cŵn: 12. Cathod: 14. Pysgod: 2. Llygod mawr: 6. Nadroedd: 1.

Mae’r data hyn yn arwahanol oherwydd bod y rhifau’n rhai cyfan. Er enghraifft, nid yw’n bosibl cael hanner ci neu hanner cath.

Enghraifft arall o ddata arwahanol yw maint esgidiau Ewropeaidd. Mae’n bosibl cael traed maint 36 neu maint 38. Ond nid yw’n bosibl cael maint 36.1 neu 38.3.

Crydd yn mesur traed cwsmer