Siartiau data di-dor
Un o’r mathau gorau o siartiau er mwyn arddangos data di-dor yw graff llinell.
Fel arfer mae graffiau llinell yn dangos data dros gyfnod penodol o amser. Er hyn, gallant ddangos mathau eraill o ddata di-dor, er enghraifft data pellter neu oedran.
Dyma enghraifft o graff llinell sy’n dangos oed disgyblion mewn ysgol a’r niferoedd sy’n berchen ar ffôn symudol.
Drwy glicio ar y botwm graff llinell sydd i'w weld yn y bar offer o fewn y daenlen rwyt ti'n gweithio ynddi, byddi di'n gallu creu graff llinell.
Enghraifft o grynodeb
Disgyblion 16 oed sy’n berchen ar y nifer mwyaf o ffonau symudol, yna disgyblion 15 oed, yna disgyblion 14 oed. Disgyblion 11 oed sy’n berchen ar y nifer lleiaf o ffonau symudol.