Llythrennedd ddigidolDefnyddio lluniau a delweddau

Mae’n bwysig deall y gwahanol fathau o ddata y gallwn eu defnyddio i greu siartiau, graffiau a thablau. Drwy drefnu gwybodaeth yn glir mae’n bosibl sicrhau bod y darllenydd yn deall y cynnwys.

Part ofCenedlaethol: Sylfaen CA4Project unigol

Defnyddio lluniau a delweddau

Mae lluniau a delweddau yn helpu darllenwyr i ddeall cynnwys yn well. Maen nhw hefyd yn gwella arddull cyflwyno dogfen. Gall delweddau ddod o lawer o ffynonellau, er enghraifft:

  • lluniau gwreiddiol sy’n cael eu creu â rhaglenni peintio
  • llin-luniau yn defnyddio pecynnau
  • ffotograffau wedi eu tynnu â chamera digidol, ac wedi eu trosglwyddo i’r ddogfen
  • llyfrgelloedd clipluniau
  • delweddau di-hawlfraint sydd ar gael ar-lein

Hawlfraint

Fel arfer, fodd bynnag, bydd ffotograffau, darluniau a delweddau eraill nad wyt ti wedi eu creu dy hun yn cael eu diogelu drwy hawlfraint fel gwaith artistig. Mae hyn yn golygu bydd angen i ti gael caniatâd perchennog/perchnogion yr hawlfraint os wyt ti eisiau eu defnyddio yn dy ddogfen.

Dewis delweddau effeithiol

Mae angen i ddelweddau sefyll allan a dal sylw’r darllenydd. Gall rhai delweddau fod yn ddiflas, ac mae eraill wedi cael eu defnyddio at syrffed, felly mae’n bwysig dewis delwedd sy’n edrych yn ddiddorol.

Wrth ddewis delwedd i’w chynnwys yn dy waith, bydd angen i ti ystyried:

  • pa mor berthnasol yw’r ddelwedd
  • pa mor unigryw yw’r ddelwedd

Dyma restr o bethau i feddwl amdanynt wrth ddewis delweddau effeithiol.

  • A yw’r ddelwedd o ansawdd da? Os nad yw’r ddelwedd yn glir, paid â’i defnyddio.
  • Pa mor fawr yw’r ddelwedd? Os yw’n fach iawn, efallai na fydd pobl yn sylwi arni, neu efallai na fyddant yn trafferthu edrych yn fanwl arni.
  • Faint o ddelweddau wyt ti wedi eu defnyddio? Gall gormod o ddelweddau wneud gwybodaeth yn anodd i’w darllen.
  • Sut mae’r delweddau wedi eu gosod? Paid â’u gosod yn rhywle lle maent yn torri ar rediad y testun.
  • Pa mor amlwg yw’r delweddau? Paid â defnyddio clipluniau os nad oes rhaid. Ceisia ddewis delweddau gwahanol neu annisgwyl, ond sy’n dal yn berthnasol i’r cynnwys.
Siart gyda'r penawdau 'Drwg iawn', 'Drwg', 'Da', 'Da iawn', sy'n nodi'r pethau pwysig i'w ystyried wrth ddewis llun i'w gynnwys o fewn darn o waith.